Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oherwydd esgeulustra rhieni ynglŷn â'r iaith, ond yn dwyn mawr sêl dros yr eglwys y magesid hwynt ynddi. Rhwng yr eithafion hyn gwneid yr eglwys a'r gynulleidfa i fyny o'r amrywiaeth arferol a geir mewn trefi mawrion; amrywiaeth mewn gras a diwylliant, mewn profiad a gwybodaeth, mewn chwaeth a barn; mintai gymysg o bob agwedd ar fywyd Cymreig, a'r cwbl mewn undeb perffaith yn eu hedmygedd o Mr. Adams, eu serch tuag ato a'u hymddiried yn ei weinidogaeth, er iddi fod, yn y pregethu ohoni, yn dilyn llinellau dieithr ac yn torri ar draws rhai traddodiadau hybarch, tra yr oedd ef hefyd yn brin mewn rhai o'r pethau a berthyn i arfogaeth bulpudol llawer o bregethwyr poblogaidd. Nid oedd llawer o swyn yn ei lais na chyfaredd yn ei draddodiad, nac ol saernïo llenyddol yng nghyfansoddiad y bregeth, ac yr oedd braidd yn ddiystyr o hawliau arddull areithyddol fel rhan o'r gelfyddyd o bregethu. Yn gyffredin mae cynysgaeth dda o'r doniau hyn yn beth priodol i'w chwennych gan y pregethwr ac yn gymeradwy gan y gynulleidfa. Ond yr oedd athrylith Mr. Adams mewn gwrthryfel yn erbyn pob math o ffurfioldeb a chaethiwed, a theimlech wrth wrando arno nad gŵr oedd ef i'w osod mewn hualau meddyliol a materol. Pan safai yn y pulpud wedi darllen ei destun yr oedd ganddo arferiad o ymsythu'n sydyn a gosod ei gorff mewn agwedd i fynegi tuhwnt i amheuaeth fod pob cymal a gewyn a chyswllt ohono mewn cywair perffaith ar gyfer y gorchwyl o'i flaen; taflai ei olygon dros y gynulleidfa ac ymdonnai gwên hawddgar a hapus ar ei wynepryd; y cyfan yn arwyddo fod popeth yn dda rhyngddo ag ef ei hun ac â'i wrandawyr; ac heb ymdroi gyd â rhagymadrodd ffurfiol i olrhain cysylltiadau y testun a'i ystyron llythrennol, elai yn uniongyrchol at yr egwyddor neu'r agwedd ar wirionedd a welsai ef yn y geiriau fel neges i'w chyflwyno; a defnyddiai holl ystorfeydd ei ddysg a'i brofiad i gymell