Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y neges honno gyd â thaerni a grym angerddol. Am rai blynyddoedd bu'r athronydd a'r athro yn amlwg iawn yn ei bregethau. Yr oedd ynddynt ymresymu manwl a dysgedig ar bynciau lled anodd ei ddilyn, condemnio llym ar rai damcaniaethau diwinyddol, a dinistrio llawer o ddelwau hen gredoau; a hynny gyd â difrifwch a dwyster a brofai nad oedd amcan i'r condemnio na'r dinistrio namyn symud ymaith rwystrau oddiar ffordd y Gwirionedd, rhwyddhau ymdaith Teyrnas Dduw, a dadlennu Cariad Dwyfol yng nghyflawnder ei ogoniant. Yn raddol ac yn berffaith naturiol daeth yr elfen bersonol fwyfwy i'r golwg, goruchwyliaeth Trugaredd a Gras yn amlycach, a mwy o dynherwch a chysur yn y genadwri; daeth yr athronydd yn fwy o eiriolwr a'r athro yn fwy o efengylydd. Ceir amlygiad o ansawdd ei feddwl mewn perthynas â hyn ganddo ef ei hun yn Adroddiad yr Eglwys am y flwyddyn 1905 wrth gyfeirio at y Diwygiad, fel y canlyn:

Dyma, yn ddiau, un o'r blynyddoedd rhyfeddaf ynglŷn â hanes crefydd yn ein gwlad. Derbyniasom ni yn 'Grove Street' yn helaeth o ddylanwadau achubol, deffroadol, a santeiddiol yr Ysbryd Glân. Y mae nifer ein dychweledigion a'n gwrandawyr a'u rhoddodd eu hunain yn llwyr i wasanaeth yr Iesu yn brawf amlwg fod yr Ysbryd wedi gweithio'n nerthol yn ein plith. Cyd-ddiolchwn i'r Arglwydd am ei diriondeb a'i ofal graslawn. Pan gyfeiriem at y Diwygiad yn ein Hadroddiad diweddaf, nid oeddym ond wedi derbyn "blaen y gawod." Wedi hynny y disgynnodd arnom fel dinas law mawr Ei nerth. Bu yn ein mysg weddïo taer am bresenoldeb amlwg Duw, ac fel arfer, gwrandawodd ar weddïau Ei bobl, a chododd llanw y Diwygiad mewn canlyniad yn uwch na disgwyliadau y mwyaf ffyddiog. Y mae gennym ni fel eglwys le