rhwng y ddwy eglwys cytunwyd yn 1919 i werthu'r adeilad hwn ac ymuno â Park Road i sefydlu Ysgol Undebol yn Allerton Road, yr hon sydd yn parhau mewn grym a defnyddioldeb o dan nawdd yr eglwysi hyn.
Yn yr Ysgolion, yn fwy efallai na phopeth arall, llafur pleserus oedd llafur Mr. Adams. Gyd â llawer o nodweddion yr ysgolfeistr yn aros ynddo, yr oedd ganddo ffydd gref mewn addysg fel gallu i adeiladu cymeriad ac fel moddion i iawn—ddeall yr Ysgrythyrau; a chredai na ellid cyfrannu addysg yn effeithiol heb gynlluniau priodol ac athrawon cymwys. Yn ei farn ef dyletswydd yr eglwys, ac nid y wladwriaeth, yw darparu addysg grefyddol, a dylai pob eglwys fod yn sefydliad addysgol, a phob gweinidog gymryd rhan flaenllaw yn y gwaith. Llefarodd ac ysgrifennodd lawer ar hyn. Er enghraifft, wele ddyfyniadau o'r Llawlyfr o'i waith a gyhoeddwyd yn 1908 gan Bwyllgor Undeb yr Annibynwyr Cymraeg:
'Y mae ein pobl ieuainc yn y blynyddoedd hyn mewn argyfwng pwysig. Y mae peryglon gwirioneddol yn ymosod arnynt o wahanol gyfeiriadau. Goreu po gyntaf i ni fel eglwysi ac fel enwad eu cydnabod, a pherffeithio ein cynlluniau addysg er mwyn paratoi ein plant a'n pobl ieuainc ar eu cyfer. Mae'n amlwg nad yw'r addysg a gyfrennir o'r pulpud o Saboth i Saboth yn ddigon i gyfarfod anghenion yr oes sydd ' yn codi. Yn ystod y ganrif ddiweddaf ar ei hyd, cynorthwywyd y weinidogaeth gan yr aelodau drwy gyfrwng yr Ysgol Sul. Hwyrach fod hyn, mewn rhai amgylchiadau, wedi peri i'r weinidogaeth ymryddhau'n ormodol oddi wrth y cyfrifoldeb, gan ei ddirpwyo i'r sefydliad gewrthfawr hwn. Credwn fod yn rhaid dwyn y gweinidogion a'r Ysgol Sul i agosach perthynas nag a fu erioed o'r blaen. Y mae llwyddiant yr