Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eglwysi Rhyddion yn dibynnu ar lwyddiant yr addysg a dderbynia'r aelodau. Mantais fawr fyddai caniatau i'r gweinidog gyfle yn achlysurol i fod yn bresennol yn yr Ysgol. Gallai drwy ymweled â'r dosbarthau, a holi'r Ysgol yn y wers am y dydd am chwarter awr ar y terfyn, gyflawni llawn cymaint o wasanaeth ag a wnâi drwy y bregeth. Ond, hyd yn hyn, nid yw'r eglwysi'n argyhoeddedig o'r cyfryw fantais; a'r canlyniad ydyw fod yr Ysgolion a'r Pulpud yn eu colled. Yr ydym yn dadleu dros y diwygiadau hyn yn nhrefniadau ein Hysgolion Sul fel amod sicrhau athrawon mwy cymwys. Ond yr ydym yn llwyr argyhoeddedig na cheir hyn heb roddi cwrs neilltuol o hyfforddiant i'w cymhwyso ar gyfer eu gwaith. A thueddir fi i ychwanegu na cheir hyn yn gyffredinol heb i weinidogion yr eglwysi gymryd y mater pwysig yma mewn llaw.

Gwyddai ef nad yn hawdd nac yn fuan y gellid dwyn gwelliannau o fath y rhai hyn oddiamgylch, am fod rhwystrau amlwg ar y ffordd a llawer o baratoi yn angenrheidiol; ond gwyddai gystal â hynny na ellid osgoi y canlyniadau a ragwelai ef yn niffyg symudiad diwygiadol a roddai i'r Ysgol Sabothol well mantais i gyflawni ei chenhadaeth ym mywyd crefyddol y genedl. Daliodd ar bob cyfle i ddadleu'r achos a gwasgu ei argyhoeddiadau ar garedigion yr Ysgol Sabothol; ac o fewn cylch ei weinidogaeth gartref llwyddodd, trwy ei benderfyniad a'i ddyfalwch, i ennill cydymdeimlad cyffredinol athrawon a swyddogion, ac i osod nod ei ddelfrydau ei hun ar lafur a threfn yr Ysgolion. Dilynodd waith y dosbarthau yn rheolaidd ac yn fanwl, a thrwy gyngor ac awgrym ac esiampl rhoddodd iddynt gyfarwyddyd a chefnogaeth ymarferol. Ffurfiodd hefyd ddosbarthau arbennig i athrawon ac athrawesau,