Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i feithrin ynddynt ysbryd addas i'w swydd a'u cynorthwyo i ddefnyddio'r moddion a mabwysiadu'r cynlluniau mwyaf manteisiol ar gyfer y gwaith. Mewn amser ac allan o amser gosododd ei brofiad addfed yn rhwydd at wasanaeth yr Ysgolion. Yn yr un ysbryd, bu ei ddiddordeb yn ddiflino yng ngwahanol gymdeithasau y bobl ieuainc a'r plant; ac wrth ystyried mor hyddysg ydoedd ymhob gwybodaeth a allasai fod yn fuddiol iddynt, mor fedrus i gynghori yn newis llyfrau ar wahanol destunau, i ddatrys anawsterau ar bynciau dadleuol ac i ddeffroi chwilfrydedd meddyliau ieuainc, mor barod i ateb eu cwestiynau ac i gydymdeimlo â phob ymgais am oleuni, mae'n hawdd deall pa fodd y daeth aelodau y cymdeithasau hyn yn ddisgyblion brwdfrydig iddo ac i'w hanner addoli. Gyd â hwy a'u tebig yr oedd ei fwynhad pennaf, ac arwydd o ffrwyth ei wasanaeth yn y cyfeiriadau hyn yw mai rhai ohonynt hwy heddiw yw diaconiaid a gweithwyr mwyaf ymroddgar eglwys Grove Street, a llawer mae'n ddiameu mewn cylchoedd cyffelyb yng ngwahanol eglwysi y wlad—i dystio am gyfoeth y fagwraeth ysbrydol a gawsant gan y Parch. David Adams.

"Ym mywyd cyffredinol yr eglwys yr oedd ei ysbrydiaeth ef yn peri nad oedd lle i ddim segur a diffrwyth o'i mewn. Yn anad dim, dyn byw oedd Mr. Adams, a byw fu ei weinidogaeth—nid yn unig yn hanfodion mwyaf cysegredig ei chenhadaeth, ond hefyd yn y gofalon amgylchiadol a phersonol sydd yn rhan bwysig o gyfrifoldeb gweinidog ffyddlon a chydwybodol. Bu cynnydd cyson a sylweddol yn rhif yr aelodau ar hyd y blynyddoedd, haelioni mawr mewn cyfraniadau ariannol i gyfarfod anghenion yr eglwys ac i gynorthwyo gwahanol achosion oddiallan, a chydweithrediad teyrngar a chalonnog, yn gwneuthur bywyd yr eglwys yn un o hyfrydwch digymysg. Yn y cysylltiadau hyn—ac yn wir ymhob cysylltiad