Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cafodd Mr. Adams fantais amhrisiadwy yng nghydweithrediad Mrs. Adams a'u dwy ferch. Mae'n rhaid mai Rhagluniaeth ac nid ffawd a ordeiniodd iddo fesur mor helaeth o ddedwyddwch teuluol: cartref wedi ei santeiddio gan gariad a'i berffeithio mewn cysur gan chwaeth a gofal a threfn, a'i holl awyrgylch mewn cynghanedd ag amcanion y weinidogaeth. A chanddi adnabyddiaeth bersonol o'r holl aelodau, craffter i ddeall nodweddion gwahanol gymeriadau, medr arbennig i drin pob math ohonynt, doethineb ymarferol yn wyneb pob dyryswch, ac amynedd yn ymylu ar fod yn ddwyfol, bu Mrs. Adams yn gyfoeth o fendith i'w phriod ac yn wrthrych serch ac edmygedd ei chyd-aelodau. Mewn diwydrwydd bugeiliol bu yn ddiflino, ac nid oedd hi un amser heb rhyw ddyfais neu anturiaeth newydd i hyrwyddo llwyddiant yr achos a symbylu'r frawdoliaeth i weithredoedd da. Cafodd gynhorthwy selog a galluog Miss Adams a Miss Myfanwy, a ymroes i gynnal breichiau eu rhieni a chyflwyno eu talentau at wasanaeth yr eglwys. Mewn gwirionedd y gallasai Mr. Adams herio'r holl bobl gan ddywedyd fel Josua,' Dewiswch chwi pa un a wasanaethoch, ond myfi, mi a'm tylwyth, a wasanaethwn yr Arglwydd.'

Yn y flwyddyn 1912, etholwyd Mr. Adams yn Gadeirydd yr Undeb, ac mewn perthynas i hyn ymddangosodd y datganiad a ganlyn yn Adroddiad yr Eglwys:

Anghyflawn fuasai'r Adroddiad hwn heb gyfeiriad at fater a fu yn achos llawenydd i holl aelodau'r eglwys yn ystod y flwyddyn, sef etholiad ein Gweinidog yn Gadeirydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Yn hon, y ddeunawfed flwyddyn o'i weinidogaeth yn Grove Street, mae ei safle yn serch ac ymddiried ac edmygedd yr eglwys yn uwch ac yn sicrach nag erioed, fel mai amhosibl yw i ddim pwysig