Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffyddlondeb a'u cydweithrediad ymhob amgylchiad, a rhai yr arferai ymgynghori â hwy bron yn feunyddiol. Nid rhyfedd os bu i'r colledion hyn effeithio yn niweidiol ar ei iechyd ac amharu rhyw gymaint ar y cyfansoddiad cryf a'i cadwasai'n heini hyd ddyddiau henaint.

'Ym mis Hydref, 1920, cyflawnodd chwarter canrif ei weinidogaeth yn Grove Street, ac amlygodd ei barodrwydd i ymddiswyddo, ond ni wrandawai'r eglwys ar hynny. Er wedi cyrraedd ei bymtheng mlwydd a thrigain, dyn ieuanc oedd ef i bob ymddangosiad o ran corff a meddwl ac ysbryd, heb dywyllu o'i lygad na chilio o'i ireidd-dra. Yn hytrach na gollwng gafael ar ei wasanaeth, penderfynwyd yn unfryd roddi ychwanegiad sylweddol at ei gydnabyddiaeth flynyddol fel gweinidog, a chyflwynwyd anrheg o lestri arian i Mrs. Adams fel arwydd o serch ac edmygedd yr aelodau tuagati. Yr oedd bwriad hefyd i drefnu tysteb gyhoeddus i Mr. Adams, ond gohiriwyd hynny rhag fod perigl i'r mudiad gael ei gamesbonio yn awgrym iddo ymddeol o'i ddyletswyddau. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i'w longyfarch ac i ddatgan edmygedd o'i waith a'i gymeriad. Daeth tyrfa fawr ynghyd o holl eglwysi y cylch a thraddodwyd anerchiadau gan weinidogion a swyddogion yn cynrychioli y gwahanol enwadau crefyddol. "Y dydd hwnnw yr oedd pob lle i gredu fod rhai blynyddoedd yn aros i Mr. Adams o fwynhad yn ei lafur; ond y mis Mai dilynol, ar Saboth pan oedd ei gyfaill y Parch. H. Elfed Lewis yn pregethu yn Grove Street, cymerwyd ef yn glaf, a pharhaodd dan driniaeth feddygol a gofal pryderus ei anwylaid hyd y pumed o Orffennaf, 1922, pryd y gollyngwyd ef o'i gystudd, ac yr aeth i mewn i'r etifeddiaeth a gyhoeddasai ef filoedd o weithiau yn eiddo i'r gwas da a ffyddlon.

"Saith ar hugain o flynyddoedd llawn hyd yr ymylon o ffrwythau athrylith ddisglair, cymeriad pur, a phersonoliaeth