"Cafodd eglwys Grove Street fudd annhraethol yn ei weinidogaeth a'i gyfeillion fraint werthfawr yn ei gymdeithas, ond yr oedd maes ei lafur yn llawer ehangach a chylch ei ddylanwad yn cynnwys cenedl gyfan. Bydd lle amlwg ac anrhydeddus i enw David Adams yn rhôl arweinwyr crefyddol Cymru a ymrôdd i ledaenu gwybodaeth o'r Gwirionedd ac i dreiglo ymaith feini a fu'n cuddio trysorau Cariad Dwyfol."
Yn ei atgofion amdano ac o'r argraffiadau a wnaeth ar ei feddwl, cyffyrdda'r Parch. O. Lloyd Owen, Pontypridd, â rhai o linellau ei weithgarwch y tu allan i'w eglwys ei hun:
"Pell o'm meddwl, yng ngaeaf 1873 neu 1874, oedd y syniad y gallaswn, rywbryd, fod yn cydweinidogaethu ag ef yng nghylch Lerpwl, am ddeng mlynedd—ef yn Grove Street a minnau yn Clifton Road, Birkenhead. Ond felly y bu, ac yn ystod y blynyddoedd hynny cawsom gymdeithas led agos a chyson â'n gilydd, yn enwedig felly yng ngwaith yr Ysgol Sabothol a'r Gobeithlu, ac hefyd yng nghyfarfodydd Cymdeithas Gweinidogion Cymraeg Lerpwl a'r Cylch ac hefyd y Bwrdd Cynulleidfaol Seisnig. Nid oeddym yn cydweld ar bopeth, a rhaid weithiau fyddai croesi cleddyfau. Pan gymerai ef at unrhyw beth, gwnâi hynny o ddifrif gyd â sêl a brwdfrydedd, a disgwyliai i bawb arall fod yr un fath ac o'r un farn ag ef; ac oni wneid hynny byddai'n ffynhonnell llawer o ofid; ac ni phetrusai ddangos ei anghymeradwyaeth—hyn ydoedd un o'i wendidau. Pennod go bwysig yn hanes ei fywyd ydoedd yr Ysgol Sabothol, ei gwaith, a'i gofynion, a'i hawliau ar oreu aelodau eglwysig yn arbennig, ac yn ystod ei weinidogaeth yn Lerpwl y gwnaeth fwyaf, ac y cymerodd ran amlycaf yn y cyfeiriad yma, ac addefir yn gyffredinol iddo wneuthur llawer o ddaioni, er y credir gan lawer y gallesid, wrth gymryd cyfeiriad arall, wneuthur gwaith mor arhosol