a mwy cydnaws i feddwl y llïaws. Ond yn hyn eto yr oedd ar ei ben ei hun, fel yr oedd y pregethwr.
"Credai lawer iawn yn yr arholiadau fel moddion i berffeithio gwaith a chymhwyso yn enwedig athrawon i waith yr Ysgol Sabothol. Cael tarian oedd ei ffordd i ennyn mwy o ddiddordeb yn nisgyblion yr Ysgolion Sabothol at y gwersi a'r gwaith. Yn hyn y deuthom i wrthdarawiad ag ef, er i ni ei hennill yn deg y flwyddyn gyntaf y cafwyd hi. Yr un peth oedd ei sêl dros y Gobeithlu. Rhaid oedd cael lle amlwg i Ddirwest ymysg y plant. Credai yn y dywediad, "Prevention is better than cure." Er mwyn cael gwell cyfle i addysgu y plant, rhaid oedd sefydlu "Cymanfa y Gobeithluoedd " yn y cylch, a chael cystadleuaeth cydrhwng y Gobeithluoedd mewn trefn, a dysgu, a chanu, a rhif cymharol i rif yr eglwys. Gwnaed gwaith da ac arhosol trwy gyfrwng y Gymanfa yn ddiddadl, ac anodd iawn, yn ei dyb ef, oedd symud yr eglwysi i ddigon o egni ac ynni yn ffafr y symudiadau hyn.
Yr oedd ac y mae y Congregational Board yn eithriadol o boblogaidd ymysg gweinidogion Annibynnol Saesneg a Chymraeg Lerpwl a'r cylch. Mynychent y cyfarfodydd yn rheolaidd a chyson. Cynhelid y cyfarfodydd ar fore Llun unwaith yn y mis am un ar ddeg o'r gloch; ac wedi cael papur ar ryw fater, a dadl onest, frwd ryfeddol weithiau, yr oedd cinio wedi ei baratoi mewn ystafell arall am un o'r gloch; ac wedi gwneuthur cyfiawnder â hwnnw, arferid mynd yn ol i'r un ystafell ag y cafwyd y cyfarfod yn y bore, lle y byddai cwpanaid o goffi i'w chael, ac ymgom ddifyr am awr neu ddwy. Am ryw reswm na wyddom beth oedd, anfynych y byddai ein cyfaill yn mynychu'r cyfarfodydd hyn, ac nid ydoedd wedi ymaelodi hyd yn gymharol ddiweddar o'i fywyd gweinidogaethol yn Lerpwl. Ond er hynny arferai ddyfod ar