Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

archoll. O dan ei ergydion gwelsom ein cyfaill lawer gwaith yn anesmwytho ac yn paratoi i frwydr bellach. Gallesid yn rhwydd enwi llawer o frodyr sydd bellach wedi blaenu, ond gofod a ballai inni. Gyd ag amser daeth eraill i mewn i'r cylch, o bob rhan o'r wlad, ac o bob math ar ysgol, a dylanwad eu colegau yn dyfod gyd â hwynt colegau Cymru a Lloegr, diwinyddol a chenedlaethol, a'u syniadau yn newydd ac yn llydan. Yr oedd gan ein cyfaill rhyw allu greddfol i ennyn dadl ac i roddi rhywbeth a allai redeg weithiau yn wyllt i gynnen—ein diffyg ni fel Celtiaid o bosibl ydyw hynny, ac nid ei fai ef yn bersonol ydoedd. Hwyrach y gallasai hynny darddu oddiar ei ddull pendant o ymresymu dros neu yn erbyn yr hyn a fyddai o dan sylw; ac er mwyn gosod pwyslais arbennig ar yr hyn oedd dan sylw neu a bleidiai, gostyngai ei lais bron i sibrwd, fel pe'n tosturio wrth ymresymiad ei wrthwynebydd, neu yn wir wrth unrhyw un a gefnogai yr ochr arall i'r hon y credai ef ynddi, nes y byddai hynny drachefn yn cyffwrdd â rhyw fan tyner yn rhywun arall. Fel hyn, os byddai ef yn cymryd rhan, ac yn enwedig ran amlwg, byddem yn sicr o gael cyfarfod brwdfrydig heb eisiau cymell neb i gymryd rhan; ond trafferth y cadeirydd fyddai atal y drafodaeth rhag oeri o'r te ym mrwdaniaeth y ddadl."

Digwyddai'r Athro J. Oliver Stephens, B.A., B.D., Caerfyrddin, fod yn bresennol un bore Llun yng nghyfarfod y gweinidogion (Seisnig a Chymreig) pryd y darllenai'r Prifathro E. Griffith-Jones, D.D., bapur ar fater diwinyddol. Galwyd ar Adams i siarad, yr hyn a wnaeth, meddai Mr. Stephens, gyd â'r fath feistrolaeth a dylanwad ag a barai iddo deimlo'i fod yn arglwyddiaethu dros y cwrdd a phawb oedd yno.

Ymddangosodd y braslun a ganlyn o'i weithgarwch cyffredinol y tu allan i'w eglwys—yn Y Brython:—