Cymerodd Mr. Adams ran flaenllaw ym mywyd Cymreig cystal â chyffredinol Lerpwl ar hyd y saith mlynedd ar hugain y bu yn y ddinas. Bu'n aelod o Gyngor y Gymdeithas Genedlaethol; darlithiodd iddi; a dilynai ei chyfarfodydd yn gyson bob tymor hyd y caniatâi ei gyhoeddiadau darlithio a phregethu yn y wlad.
Yr oedd yn gadeirydd pwyllgor llenyddol Eisteddfod Genedlaethol 1900; a bu ganddo ran amlwg iawn gyd â dethol yr adran honno o'i thestunau. Yr oedd hefyd ar bwyllgor gweithiol Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917; a bu o gymorth mawr gyd â honno a chyd ag Eisteddfod y Plant—Eisteddfod y G'lomen Wen bellach—a ddeilliodd ohoni; gan ddyfod dros y dŵr, ar bob tywydd, o ganol gwaith a galwadau aneirif, gan mor selog ydoedd dros yr ysbryd eisteddfodol a thros bartoi rhaglen addas i blant ac ieuenctid Cymreig y Glannau. Cyfansoddodd aml i ddarn adrodd ac arall o bwrpas i gadw'r iaith ar wefus y to sy'n codi; ac fel athro profedig, meddai wybodaeth werthfawr iawn a'i galluogai i bartoi cwestiynau addas ac atebadwy, mewn arholiadau Cymraeg ac Ysgrythyrol, ac nid rhai amhwrpasol ac annaturiol fel a geir gan rai anghyfarwydd ag egwyddorion addysgu a deddfau'r meddwl.
Bu'n arweinydd i Ddosbarth Athronyddol Cymreig Lerpwl am amryw dymhorau. Cyfarfyddid yn un o ystafelloedd Capel Crosshall Street, a bu Mr. Adams yn arweinydd diogel ond agored i gyfrolau fel Martensen's Dogmatics a'u cyffelyb. Mae llawer o hen aelodau'r dosbarth hwnnw yn falch o'r wybodaeth a'r adeiladaeth a gawsant yn y cyfarfyddiadau wythnosol hynny, ac yn gofidio na cheid eu cyffelyb eto, o dan arweiniad gŵr cyffelyb ei naws a'i ryddfrydigrwydd i Mr. Adams.