Un o'i draethiadau goreu bob blwyddyn fydda pregeth ar yr Ymgnawdoliad a draddodai bob bore Nadolig yn Grove Street, ac a gyhoeddid yn Y Brython fel enghraifft o'r sut y treiglai Stori'r Geni Bendigaid drwy fywyd a llenyddiaeth y byd.
Yr oedd Mr. Adams yn Gymreig ei reddfau; yn dal dros yr iaith ymhobman lle y byddai; cadwodd awyrgylch felly yn ei eglwys ac ar ei aelwyd; ac er yn gyfarwydd â hufen llenyddiaeth gwledydd eraill, yr oedd yn ddigon craff i weled neilltuolrwydd y meddwl Celtaidd, ac i wneuthur ei oreu i'w barhau a'i berffeithio.
Yr oedd gorwel ei feddwl yn llydan, a bu ei lyfrau a'i ysgrifau yn destun beirniadaeth gref gan feddyliau hŷn a mwy ceidwadol; ond yr oedd yn ymladdwr eofn dros ei olygiadau, ac yn hytrach yn mwynhau gornest dros y Newydd yn erbyn gormes yr Hen. Yr oedd yn edmygydd mawr o'r diweddar Brifathro Thos. Chas. Edwards; ac wedi annerch yn frwdfrydig draw ac yma drwy Gymru ar ran y Gofeb Genedlaethol y sydd i'w chodi iddo.
Prin fod yn Lerpwl neb gweinidog Cymreig a fynychodd fwy o bwyllgorau a chyfarfodydd crefyddol a chenedlaethol, nac a ymroddodd yn ddyfalach dros ddirwest a rhyddid gwladol ac eglwysig, cystal â rhyddid barn mewn byd ac eglwys. Rhyddid oedd ei reddf fawr, ac ymladdodd drosto'n ddi-dderbynwyneb."