Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"unigolion goreu o ran cymeriad moesol, y rhai mwyaf clir eu deall o ran syniadaeth athronyddol", a'r rheiny'n "ganghennau ym mhren bywyd a syniadaeth yr Eglwys fel corff dirgeledig yr Arglwydd Iesu," yw'r "awdurdod uchaf i benderfynu beth sydd wirionedd yn nhiriogaeth crefydd," ond mae'n "rhaid i'w bywyd moesol fod wedi cymhathu syniadaeth gywiraf, cariad puraf, ac ymgysegriad llwyraf goreuon y cyfnodau addfetaf; ac yna derbyniant gymhwyster i fod yn gyfryngau datguddiad rhagorach a meddiannant yr hawl i feirniadu syniadau a chyfundrefnau diwinyddol y gorffennol." Eto, "y mae clai y gwledydd y rhed afon drwyddynt yn mynnu llychwino ac amhuro'r dwfr i ryw raddau," a dylai "meddylwyr diwinyddol fynd yn ol at Grist—heibio'r tadau Piwritanaidd, heibio'r diwygwyr Protestanaidd, heibio mystics a scholastics y Canol Oesoedd, heibio'r tadau Groegaidd, ïe heibio'r Apostolion eu hunain at Iesu ei Hun, ffynhonnell ysbrydoliaeth pob athro, a sant, ac apostol." Ceir hyn ar ddiwedd yr ail bennod, ac yn y drydedd dywedir wrthym y dysgir mwy am Grist "drwy astudio bywyd a geiriau Crist ei Hun na thrwy astudio'r adlewyrchiad ohono ym mywyd ac ysgrifeniadau Paul."

Pan ddaw'r awdur at ddiwinyddiaeth Paul fel y cyfryw fe ddywed wrthym:

"Wrth feirniadu cyfundrefn ddiwinyddol Paul, dylem gadw mewn cof nad yw ef ei hun wedi ymgymryd â chyfundrefnu ei syniadau yn llawn a manwl. Llythyrau ydynt yn ateb gwrthddadleuon a godid gan ei wrthwynebwyr, er cyfarfod â rhyw heresi neilltuol oedd yn ymosod ar eglwys neilltuol, neu ynteu yn ceisio adsefydlu trefn mewn eglwysi oedd mewn "anghydfod . . . . Pwysleisir un arwedd i'r gwirionedd gan anwybyddu yn ormodol arwedd arall