arno. . . . Ai nid y ffaith hon sydd yn cyfrif am rai o'r anghysonderau, neu y gwirioneddau rhannol y cwynir o'u herwydd yn Epistolau Paul?"
Hynny yw, apostol oedd Paul yn gyntaf, nid diwinydd. Ei amcan oedd cael dynion i gredu yng Nghrist a rhoddi ffurf ymarferol effeithiol i'w syniadau yn hytrach na ffurf wyddonol gywir. Felly nid Paul yn aml a feirniedir yn gymaint â'r diwinyddion a fyn gysylltu ystyr wyddonol bendant â'i eiriau a'i ffigyrau. Y mae Paul yn gorfod dioddef am bechodau Awstin a Chalfin ac eraill. Y mae'n drueni na fuasai hyn wedi ei wneuthur yn eglur yn nechreu'r gyfrol (fel yn nechreu'r papur).
A hyd yn oed pan feirniedir Paul, cawn yn aml wireddu geiriau Adams ei hun: "Y mae diffyg cydbwysedd priodol bron bob amser yn nodweddu pleidiau mewn dadl," tra yr arweinir ef, fel disgybl Hegel a Darwin, i anwybyddu neu wanhau gofynion ffeithiau, gan ragdybiau athronyddol ynghylch unoliaeth a datblygiad graddol. Cawn enghraifft o hyn yn ei bennod ar "Y Cnawd a'r Ysbryd." Cwyna "fod Paul wedi gwneuthur y gwrthdarawiad rhyngddynt yn rhy eithafol a didelerau. Drwy anghofio eu cydberthynas a phwysleisio eu gwrthwynebiad, y mae'r Apostol yn mwyhau'r gwahaniaeth rhyngddynt nes ei wneuthur yn elyniaeth anghymodlawn. Nid yw'n ymddangos ei fod wedi canfod gwir swyddogaeth y natur is ynom, nac wedi rhoddi y lle a'r pwysigrwydd a berthyn i'r corff a'i deimladau fel amod moesoldeb. . . ." "Nid yw'n ymddangos" ychwaith bod yr awdur wedi sylweddoli'r gwahaniaeth rhwng y "cnawd" fel cyfrwng naturiol ac fel amcan moesol. Pan yw Paul yn cyferbynnu'r cnawd (anfoesol) â'r ysbryd, nid hollol berthynasol yw dywedyd bod yn rhaid i'r ysbryd wrth y cnawd (naturiol) fel mater neu ddeunydd y bywyd moesol. Ychydig o'r pechodau