Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a nodir gan Paul ymysg "gweithredoedd y cnawd" sy'n perthyn i'r cnawd naturiol o gwbl, a phan ydynt yn dal perthynas ag ef, nid "naturiol" mohonynt mwyach, gan eu bod wedi eu gwneuthur yn bethau anghenfilaidd gan y "cnawd" arall. "Er ein bod yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ol y cnawd." "Yn ol at Grist"! Er na chondemnia ef y "byd" yn ei le, fe ddywed "Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon " (sef y byd fel duw).

Y mae'r un peth yn wir am gyferbyniaeth Paul rhwng ffydd a gweithredoedd (pennod x). Yn ol Adams, y mae dysgeidiaeth Paul ar y "Ddeddf" yn tueddu i fychanu'n ormodol ei phwysigrwydd a'i gwir swyddogaeth, ac yn anwybyddu yn ormodol ei gwir genhadaeth fel cwrs elfennol o addysg hollol anhebgorol yn hanes datblygiad cymeriad " person unigol a chenedl. Ceir hyn hefyd yn yr ail argraffiad pan oedd yr awdur wedi ysgrifennu ei esboniad ar y "Galatiaid"![1] Nid yw Paul o gwbl yn anwybyddu na bychanu'r "Ddeddf" fel "cwrs elfennol o addysg" nac fel "cyfrwng i roddi ffurf i'w dyletswyddau tuagat Dduw a'u cyd-ddynion." Condemnia Paul hi nid yn ei lle ond allan o'i lle—h.y., pan fyddo'n cymryd lle ffydd, ac felly—fel "y cnawd"—yn wrthgyferbyniol i ffydd.

Y mae'r feirniadaeth hon yn ein taro'n hynod, yn neilltuol pan gofiwn nad oedd yr awdur o gwbl yn "ddeddfol" ei hun, fel y dengys Pennod ix. Gellir edrych ar hon fel un ganolog y llyfr yn yr ystyr ei bod yn ymwneuthur â'r berthynas rhwng Duw a dyn ag y ceisia'r awdur ei hamddiffyn. Yn ei eiriau ef ei hun, "Y mae posibilrwydd datguddiad oddiwrth Dduw i ddyn yn seiliedig ar gred yn Nuw fel Tad ac Addysgydd moesol dyn, a bod dyn fel plentyn i Dduw mewn cymundeb posibl ag ef bob amser." Hynny yw, y mae eu perthynas yn un fewnol a moesol, nid yn un ddeddfol ac allanol. Yn ol y bennod hon y mae

  1. Gwêl yr Esboniad, tud. 65, ar pen. 312, a nodiad D, tud. 156.