Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Paul yn rhy ddeddfol, neu yn dwyn deddf i mewn lle nad oes le iddi.

Ond y mae yn sicr bod yr awdur yn gwneuthur y berthynas yn un lawer rhy uniongyrchol neu "naturiol." Os cymer yr hen ddiwinyddion y term "mabwysiad" ystyr rhy lythrennol, cymer yntau y term "mabolaeth" felly. Sieryd am bosibilrwydd moesol fel posibilrwydd y dderwen yn y fesen; heb gofio nad yw'r hyn a roddir inni gan natur na da na drwg (moesol) er yn angenrheidiol i dda a drwg. Yn y bennod flaenorol ar Benarglwyddiaeth Duw cais ddiogelu rhyddid moesol dyn, ac ymresyma nad yw y gwir ddyn yn rhwym oblegid bod ei amgylchoedd naturiol a'i nwydau wedi eu penderfynu drosto; ond yn y bennod hon ymddengys bod y gwir ddyn, wedi'r cyfan, i'w gael ar lefel natur, nid ar lefel sylweddoliad moesol. Ystyr Tadolaeth Duw yw, os defnyddiwn ni ar ein hochr ni y berthynas a ddechreuwyd o'i du Ef yn barod, fe eill ein holl fywyd ni bob munud gael ei adwneuthur allan o'i eiddo Ef. . . . Nid ffaith ydyw yn gymaint â phroses a eill fod o hyd. . . Ymwybyddiaeth Crist oedd bod meddwl Duw, ewyllys Duw, bywyd gwirioneddol Duw yn cael ei atgynhyrchu bob moment ynddo Ef,—nad oedd y Mab yn gwneuthur dim ohono'i Hun."[1] Nid yw'n angenrheidiol disgyn i dir angenrheidrwydd "naturiol " i wneuthur i ffwrdd â "mympwyaeth."

Yn y penodau ar "Athrawiaeth y Cyfrifiad " a "Phenarglwyddiaeth Duw," os Paul yn hytrach na Chalfin sydd i'w feirniadu, dylesid ystyried rhannau eraill o Epistolau Paul heblaw Rhuf. v a ix, gan "nad diwinydd ydoedd ond Apostol."

Dyma lyfr enwocaf Adams yn ddiau, ond nid y goreu o lawer. Cynhyrfodd yr "odium theologicum" yn ei erbyn

  1. The Philosophy of Christian Experience H. W. Clark. Cym. Cenadwri'r Eglwys a Phroblemau'r Dydd, tud. 63—67.