Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i raddau mwy nag oedd eisiau drwy unrhywioli'n ormodol (a) Saul yr Iddew â Phaul y Christion, a'r olaf (b) yn ormodol â'r diwinyddion diweddarach a wnaeth gamddefnydd o'i lythyrau. Ond efallai i'r llyfr wneuthur ei waith yn well oblegid y sylw a alwodd ei feirniaid ato. Efallai, hefyd, y byddai ymosod ar Galfin yn ennyn digofaint rhai lawn cymaint â chondemnio'r Apostol.

Fe weddai inni gofio, hefyd, nad siarad fel easy-chair divine y mae Adams yn y gyfrol hon ond fel un â'i olygiadau wedi eu morthwylio allan i fath o eithafion mewn ymdrech enbyd â Chalfiniaeth beiriannol a barnol sir Aberteifi yr adeg yr oedd ef yno.