Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XIV. EI GYFNOD OLAF.

"I CAME out into the clear moral light of Christianity then," meddai Dr. Bushnell, ac ef yn awr yn hynafgwr, wrth sôn am y pryd y cyflwynodd ei hun i Grist yn chwech ar hugain oed, ac yntau'n ddarlithydd yng Ngholeg Yale. Ac yn y goleuni hwnnw y bu'n pregethu (wedi gadael y gyfraith) am ugain mlynedd, hyd oni ddihunodd un bore a dywedyd wrth ei briod: "The light has come for which I have been waiting like a watcher for the dawn." Naturiol gofyn, paham y cedwir rhai o'r dynion mwyaf gonest, a phur, a meddylgar, mewn profiad lled-oleu, heb fod yn "rhyfeddol oleuni" o gwbl, am amser mor hir. Arferai'r Parch. D. Charles Davies â dywedyd—fel y clywsom y Parch. Evan Phillips yn adrodd droeon—bod Duw'n "leicio gweld eneidiau cryfion yn strugglo." Diau bod "gwirionedd mewn gwisg werinol" yn y dywediad, sef y gwirionedd bod yna amcan Dwyfol i'r struggle. Cofiwn fod yng nghwmni Dr. Pierson unwaith, a'i holi ar y mater, ac iddo yntau adrodd hanesyn, sef bod cyfaill iddo unwaith yn sylwi ar y gwyfyn a elwir yn Ymerawdr yn ceisio dyfod allan o'i blisgyn, ac er mwyn ei helpu iddo dorri slit yn y cocŵn, gyd â'r canlyniad iddo ddyfod allan yn lled—fyw ac yn welw ei wedd: ymddengys bod eisiau'r ymdrech i yrru nwyf bywyd a'i liwiau heirdd i gyrrau pellaf ei adanedd! Ac er bod yr hyn a ddywedodd George Müller wrth Pierson yn wir: "Act up to the light that you have and you will get more light; be unfaithful and the light will withdraw," ymddengys hefyd ei bod yn wir bod gan un o alluoedd meddyliol cryf fwy o wlad i'w chroesi, fwy o brofedigaethau i'w darostwng i fyned i mewn i'r bywyd. Ar yr un pryd, nid ymddengys bod yr hyn a glywsom oddiar wefusau