Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Caird fwy nag unwaith yn wir, sef bod yn rhaid cael y deall i symud amheuon y rhoddwyd bod iddynt gan y deall.

Prawf enghreifftiau yn wahanol. Edrydd Mr. Phillip Mauro amdano'i hun iddo golli ei ffydd drwy ddarllen llyfrau gwyddonol materyddol, a phe gofynasid iddo ef sut y byddai'n bosibl ei helpu i adfeddiannu ei ffydd y buasai'n ateb mai drwy gael gan wyddonydd neu athronydd galluog i brofi bod yna le rhesymegol i ffydd yn nhrefn y bydysawd; ond, yn lle hynny, i Dduw ei arwain y modd nis gŵyr ef—i gyfarfod gweddi bychan mewn capel distadl ym mhen draw'r dref, ac wedi iddo agor y drws, i'w ffydd ddyfod yn ol a'i amheuon ffoi fel adar nos ! Ceir rhywbeth cyffelyb yng nghyffes yr Athro Lutoslawski (Hibbert Journal, Gorff., 1923), a drodd ei gefn ar grefydd am ugain mlynedd, ac yna yn y Cymun (heb unrhyw gydsyniad deallol) a gafodd ymwybyddiaeth o Bresenoldeb Dwyfol a barodd i'w anffyddiaeth yntau ddiflannu. Ond diau bod symud anawsterau deallol yn help negyddol i gyfnewidiad neu gynnydd moesol, a derbyn cyfundrefn athronyddol fwy digonol yn help mwy.

Daeth Adams "allan i oleuni moesol clir Cristionogaeth rywbryd cyn mynd i Goleg Aberystwyth; ac os ydyw'n wir, fel y credwn ei fod, y rhoddir goleuni mwy i'r neb a fyddo'n byw i fyny â'r goleuni sy ganddo, yn ddiddadl yr oedd yntau'n deilwng o oleuni mwy oblegid ei ffyddlondeb i'r weledigaeth a gafodd, ar waetha'r condemnio a'r erlid a fu arno ac arni. Credwn i Varieties of Religious Experience William James ei helpu ymlaen drwy ei ddwyn wyneb yn wyneb ag ochr brofiadol y bywyd Cristnogol yn y saint. Er y dywed yn un o'i anerchiadau ei fod yn hoff o fywgraffiadau, nid llawer o hanes y saint a geid ymysg ei lyfrau; a thybiwn mai ychydig flas a goffai drwy ddarllen amdanynt, hyd nes i William James eu gosod ger ei fron mewn cyffaeth meddylegol. Ar ben hyn daeth