Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Diwygiad, ac er syndod i lawer—er nad yw'n rhyfedd pan feddyliwn—profodd ei "uniongrededd calon" drwy ddangos ei gydymdeimlad llwyr â'r ymweliad grasol hwnnw, a bu llawer o feirioli ar ei galedrwydd athrawiaethol a moesol gan ei ddylanwadau.

Nid hawdd disgrifio'r cyfnewidiad yn fwy manwl, fel nad hawdd yw disgrifio ysbryd y gwanwyn, yng nglesni ei wybr, a mwynder ei law a'i awel, hyd oni ddaw'r dail a'r blodau i'w fynegi'n llawn. "A gras mawr oedd arnynt hwy oll" yw disgrifiad Luc, a gellid dywedyd hyn amdano yntau. Ymlaenaf oll, teimlasom ef yn ysbryd a naws ei bregethu. Pan glywsom ef am y waith gyntaf tua 1906,

'Roedd rhywbeth newydd yn y côr,
Rhyw newydd lais fel nawfed ton y môr."

Yna 'roedd ei destunau'n wahanol, a lle nad oeddynt, yr oedd y pwyslais yn wahanol. Yr oedd un ohonynt, er enghraifft, ar destun o'r Hen Destament a'r Newydd, sef, "A newidia'r Ethiopiad ei groen, a'r llewpard ei frychni?" gyd â "Od oes neb yng Nghrist y mae ef yn greadur newydd." Er na buasai'n flaenorol yn ateb y cwestiwn cyntaf yn nacaol, buasai'n pwysleisio'r angen am ymdrech foesol a dilyn Crist fel delfryd, fel yr oedd y cyfuniad yn y testun a'i ymdriniad yntau ag ef yn peri ysgytiad teimladol a syndod llawen i'r sawl oedd heb ei glywed ers rhai blynyddoedd.

Pan ymwelai Howel Harris â'r eglwysi a sefydlasid ganddo mewn gwahanol fannau, arferai wahaniaethu rhwng y personau oedd "dan y ddeddf" a'r rhai oedd "dan ras." Wel, "dan y ddeddf " yr oedd Adams yn flaenorol, er mai deddf y Bregeth ar y Mynydd ydoedd. Soniai, bid siŵr, am fod "mewn undeb organaidd Christ, ond ni olygai hynny fwy iddo na'r berthynas gyfeillgar sy'n bosibl rhwng dyn a dyn—yn unig bod Crist