iddo yn Fab Duw. Byddai'r hen gyfieithiad "Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim" yn ffitio'i brofiad a'i olygiad yn well na'r cyfieithiad newydd, "Wedi eich gwahanu oddiwrthyf fi, etc." Condemniai ffydd oddefol (passive) heb ei gwahaniaethu oddiwrth ffydd dderbyngar (receptive), yr hon yw ffydd y Testament Newydd yn wastad, ac yn golygu nid yn unig ganfyddiad a gwerthfawrogiad o Grist, ond cyfranogiad ohono. Gwelodd a phrofodd yn hytrach profodd a gwelodd y gwahaniaeth yn awr. Yr oedd i'r "ddeddf" ei lle o hyd, ond "i weithredoedd" oedd hi bellach, nid "o weithredoedd." Yng ngeiriau Dr. Chalmers:
Yr wyf yn sicr y gwnaiff cymundeb agos a diogel ag ef fwy i'm helpu i ufudd-dod cyson na'm holl ymdrechion blaenorol a gyfyngid gan ysbryd annibyniaeth a deddfoldeb.
Fel Dr. Chalmers, er nad mor ieuanc ag ef, daeth Adams allan o'i intellectualism i symlrwydd yr Efengyl; a chan fod llawer o sylwadau'r blaenaf—yn ei ddyddlyfr—yn taflu goleuni ar brofiad Adams, ni a'u dyfynnwn yn absen dyddlyfr gan Adams ei hun.
Efallai bod y darllenydd wedi sylwi nad yw santeiddrwydd yn cael llawer o le yng nghyfundrefn Adams hyd y pryd hwn. Hyd yma y mae perthynas dyn a Duw dan yr enw "ffydd" wedi bod yn uniongyrchol, fel ymddiriedaeth plentyn mewn tad naturiol—dyna'n ddïau pam nad oedd eisiau bod "yng Nghrist" er mwyn dyfod i'r Presenoldeb Dwyfol. Y mae'r pwyslais hefyd yn cael ei roddi nid ar ddyfod i'r ymgyfaddasiad iawn â Duw, ond ar fynegi'n ffydd ynddo Ef fel "Cariad Cyfiawn" moesoldeb, gyd â'r Iesu'n ddelfryd "perffeithrwydd moesol" ger ein bron. Ac ni wahaniaethir, ychwaith, rhwng santeiddrwydd a moesoldeb. Gallesid meddwl mai peth bach yw dyfod i'r cyswllt iawn â Duw—mai'r peth mawr