yw ymddwyn yn iawn at ddyn. Os cawn y darlun cywir o gydnabyddiaeth o santeiddrwydd Duw gan Esaia (vi) yn ymddygiad y seraff yn cuddio'i wyneb â dwy adain "fel na welai," a'i draed â dwy "fel nas gwelid" (Targum), gan ddefnyddio dwy i ehedeg, yna gellir dywedyd y mynasai Adams yn flaenorol ddefnyddio'r chwech i ehedeg,—h.y., mewn gweithredoedd o ufudd-dod. Nid yw'r gair ar ol hyn yn cael lle amlwg, nac aml efallai, ond y mae'n sicr bod naws y gwirionedd yn llawer mwy eglur. Er na ddaeth o bosibl i brofiad llawn Dr. Chalmers, gallai fabwysiadu ei eiriau'n well na chynt:
"Gwnaiff ewyllys ac uchelgais am berffeithrwydd, ac ymgais gyson a theg i'w gyrraedd, ein harwain i'r cyfaddefiad darostyngol ein bod ynom ein hunain yn bechaduriaid diymadferth ac anadferadwy. Dygant "ni at droed y Groes, ac at Grist fel ein gallu, a'n doethineb, a'n santeiddrwydd, a'n prynedigaeth gyflawn—wedi ein cau i fyny i'r ffydd fel ein hunig obaith."
Gall dyfyniad arall ein helpu i weld arwedd arall o'r cyfnewidiad:
"Yr wyf wedi teimlo aneffeithiolrwydd damcanu mewncrefydd ar hyd y dydd. . . . a bod yna allu y tu hwnt i'r rheswm naturiol yn y gwaith o ddwyn argyhoeddiad adref i'r galon; a dywed yr afael wan a rydd rhesymiad imi ar wirionedd am angen a realiti'r ddysg a gyfrennir gan yr Ysbryd Glân."
Rhoddai Adams le yn flaenorol i'r Ysbryd Glân, ond yr oedd yn rhy debig i'r lle a roddai Dr. A. J. Gordon iddo, cyn iddo yntau ddyfod i symlrwydd yr Efengyl, pryd y mynnai deall Dr. Gordon y prif le mewn cyfansoddi pregeth a ffurfio cynllun, gan ofyn i'r Ysbryd Glân ddyfod