Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/159

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'n ddïos i'r rhyddid hwn oddiwrth orthrwm cyfundrefn, a symud y pwyslais oddiar y deall i'r canfyddiadau, ei arwain ef, yn ei bregethau yn arbennig, i apelio at y canfyddiad (perception) yn fwy na'r deall (conception).

Gwrandawer ar Dr. Chalmers eto:

Gall catecismau, er iddynt fod yn gywir yn eu dogmâu, fod yn anghywir yn eu heffaith cyffredinol ar y meddwl. Nid yw dogma'n symbylu fy serchiadau ag anogaeth gynnes ac effeithiol. Gosodir hi ger fy mron fel rhan o gyfundrefn.. ac yn lle ufudd-dod syml cariad a ddysg yr Efengyl i mi, yr wyf naill ai yn rhoddi i fyny ufudd-dod yn hollol, neu ynteu'n ei gael yn rhy flinderus, gan fod yn rhaid i mi, yn ychwanegol at y teimlad syml, roddi iddo ei le priodol yn adail uniongrededd, a thrafod peirianwaith tra"fferthus o egwyddorion ac esboniadaeth yr un pryd."

Nid ymddihatrodd Adams erioed o'i ddull athronyddol yn llwyr; glynai hwnnw wrtho o hyd fel tameidiau o blisgyn y cocŵn ar adain y gloyn neu leiniau o eira diweddar yn aros yng nghafnau'r bryn ymhell i'r haf. Ond ceir ymysg ei bregethau diweddaraf rai o ddull llai haniaethol, eu hergyd yn llawer mwy uniongyrchol, a'u hapêl lawer yn fwy syml na chynt.

Yr oedd wedi ei ddysgu gan athronyddion dibrofiad i gondemnio Cyfriniaeth, ond daeth yn awr i weld ei gwirionedd heb fod yn ddall i'w pheryglon. Yn flaenorol ni olygai mabolaeth ddwyfol dyn iddo ddim llawer mwy na bod dyn yn gallu "ail feddwl meddyliau Duw," a cheisio'r un daioni ag yntau; mater o wybod a gwneuthur yr un pethau ydoedd yn fwy nag o" adnabod " Person. Wrth ei anerchiadau gallem gasglu ei fod yn rhoddi llawer mwy o le i weddi, er nad oes gennym brawf arall o hynny. Efallai iddo ddyfod i deimlo mwy o ddiddordeb mewn