Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar y llyfr, nac ychwaith i gywiro ei ddiffygion amlwg yn yr ymdriniadau â'r "Cnawd a'r Ysbryd," "Y Ddeddf a Ffydd," etc. Cais wneuthur mwy o degwch, fodd bynnag, â'r hyn sydd ganolog yn nysgeidiaeth Paul, sef ei ddehongliad ef o Grist (yn hytrach na'i syniadau am bethau eraill o'u cymharu ag eiddo Crist) drwy ychwanegu rhaglith at ei ddechreu, a phennod ar Gyfriniaeth Paul " at ei ddiwedd. Ymysg llyfrau eraill cydnebydd ei ddyled yn arbennig i ddwy gyfrol Dr. Du Bose, sef Yr Efengyl yn yr Efengylau, a'r Efengyl yn ol St. Paul, y rhai, medd ef, a rydd inni

"syniad cywirach am berthynas agos yr Efengylau ac Epistolau Paul. Ond gwneir hyn gan yr awdur galluog drwy bwysleisio'r elfen gyfriniol a phersonol yn nysgeidiaeth Paul. Gesyd ef syniadau Iddewig a chyfreithiol Paul yn y safle eilradd yn yr hwn y dylesid eu rhoddi. 'Coed, gwair, sofl' yn adeilad ei gyfundrefn yw y rhai hyn. Gresyn bod diwinyddion y gorffennol wedi eu camgymryd amaur, "arian a meini gwerthfawr' ei gyfundrefn."

Cawn y cyffesiad personol: "Y mae fy nghydymdeimlad â'r elfen gyfriniol sydd mor nodweddiadol ohono yn cynhyddu yn barhaus," ac yn unol â hyn yr ychwanegiad at ddiwedd y llyfr. Cawn hefyd fod awduron cyfriniol yn y cyfnod hwn yn cael lle ar raglen ei ddarlleniadau bore—sy'n fwy na gwelltyn i ddangos cyfeiriad y llif.

Ar un olwg, y mae'n syn iddo ganiatau i'r llyfr ail ymddangos gyd ag ond yr ychwanegiadau annigonol uchod. Ar y llaw arall, gan mai Paul yng Ngoleuni'r Iesu a geisid, beth oedd i'w wneuthur ond ei yrru allan "gyd â dymuniad am fendith 'Ysbryd y Gwirionedd' arno i'r graddau y mae yn cynnwys y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu"? Dïau, hefyd, ei fod yn teimlo y byddai'n rhaid iddo, o