Testament Newydd," "Y Datgysylltiad yn Ffrainc," Cynhadledd y Swper Santaidd," " Milton fel Diwygiwr," "Tŷ'r Arglwyddi a'r Mesur Trwyddedol," "Mesur Datgysylltiad yr Eglwys," "Father Tyrrell (y Babaeth o hyd yr un)," "Diwygio'r Eglwys Babaidd," "Materoliaeth," "Materoliaeth Ymarferol," Bywyd a Syniadau Nietzsche" (dwy ysgrif), "Datgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru," "Wm. James a'i Athroniaeth," "Wm. James a Diwinyddiaeth," "Kikuyu ac Undeb Cristnogol," "Gorfawrygu'r Wladwriaeth," "Y Wladwriaeth a'r Bregeth ar y Mynydd," "Yr Eglwys Rydd Unedig," "Y Genhadaeth Genedlaethol," "Diwinyddiaeth â Phrifysgol Cymru," "Yr Eglwys Sefydledig yn galw am Ymreolaeth," "Addysg Plant ein gwlad a'n heglwysi," "Piwritaniaeth," "Ymneilltuaeth ac Addysg Grefyddol yr Ieuanc," "Crist a'r Gydwybod." Dyna doreth go dda o ysgrifau gan un oedd yn drigain oed yn ysgrifennu'r gyntaf ohonynt. Y maent yn dangos diddordeb digon amlweddog i beri inni gymharu'r meddwl a'u cynhyrchodd i dderwen aml-ganghennog, ac eto y canghennau i gyd ymron yn plygu dan yr un gwynt.
Y llyfr hwn yw y mwyaf iach, a rhydd, a syml, a swynol, ac esmwyth a wnaeth. Y mae mor annhebig i Paul yng ngoleuni'r Iesu ag yw'r Epistol at y Philipiaid i'r un at y Galatiaid (heb gymharu'r awduron, bid siŵr). Dywedir wrthym yng Nghofiant Dr. Benjamin Jowett yr edrychai ef ar gyfnod henaint fel yr un mwyaf hyfryd a phêr o'i fywyd i gyd, a phob rhyw derfysg wedi darfod gyd â'r uchelgais a'r fyfïaeth a fu. Yr oedd tangnefedd y tymor hwn wedi disgyn ar ysbryd Adams hefyd erbyn hyn.
Heblaw hyn, yr oedd ei syniadau wedi ymiachau, a'i olygiadau wedi adfeddiannu llawer o ryddid ei reddfau a'i ganfyddiadau moesol—ei olygiadau, cofier, am 'na chollodd mo'r rhyddid hwnnw'n ymarferol o gwbl. Yn ystod yr