Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ugain mlynedd er pan gyhoeddwyd ei Ddatblygiad rhedodd llawer llif lleidiog dan bontydd y Mersi a than ragdybiau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nid yw'n hawdd gwybod pa le a roddai ef i wareiddiad diweddar (neu hen) mewn datblygiad a ddarnodai yn 1893 "fel cynnydd cyson, yn unol â deddfau neilltuol, a thrwy gyfrwng galluoedd arhosol yn y cread," ond erbyn 1913 y mae ei ymgais i ffitio rhediadau bywyd i wely'r ddamcaniaeth ry gul wedi ei orfodi i weld bod y bydysawd yn cynnwys cyferbyniadau, gwrthwynebiadau a gwrthdarawiadau a anwybyddai'n flaenorol:

"Rhwystrir amcanion Duw yn rhy fynych gan hunangais dynion a'u hawydd am hunanfantais a hunanfoddhad ar draul iawnderau dynion eraill . . . Mwy parchus o Dduw a mwy cyson ag ymwybyddiaeth dyn yw dal fod cwrs Gwareiddiad a Chrefydd yn ganlyniad cyfansawdd o weithgarwch Duw a dyn yn cydweithio neu yn gwrthweithio. . . . Y mae damcaniaeth o'r fath yn ysbeilio dyn o'r elfen foesol yn gyfangwbl. Y mae'n difodi'r duedd anturiaethus (plot interest) sydd yn gwneuthur bywyd mor ramantus. Nid oes yma le i lawenydd buddugoliaeth y sant nac i bangfeydd euogrwydd y troseddwr anfad . . . . Y mae sicrwydd ein profiad personol o ryddid yn fwy na sicrwydd rhesymegol unrhyw ddamcaniaeth o barthed i Benarglwyddiaeth Duw ac awdurdod diamheuol mater yn ffurfiad ein harferion. Y ddiwinyddiaeth a'r athroniaeth a bwysleisia ryddid ewyllys y person unigol biau'r dyfodol ymhob gwlad."

Y mae wedi dyfod i weld nad oes lle i ddrama mewn datblygiad! Ac y mae ffeithiau i ddyfod o flaen damcaniaeth, ac ymddengys fod canfyddiadau a greddfau moesol hefyd yn ffeithiau, a chanddynt lais nid yn unig yng nghwestiynau