Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymarferol, ond yng nghwestiynau deallol bywyd. Pwysleisir, ac ail a thrydydd bwysleisir hyn:

"Yn nhiriogaeth moeseg Gristnogol mae'n rhaid i fywyd Crist yn yr enaid flaenori syniadaeth gywir. Wedi derbyn y bywyd trwy ffydd yn Iesu, a dyfod i feddiant o brofiad o'i ddylanwad santeiddiol, yna cywirir syniadau y credadun am Dduw, am Grist, ac am delerau ei gadwedigaeth,—

ac felly y mae sail i system ddiwinyddol gywir yn cael ei gosod i lawr, ond cael y pensaer celfydd i'w chodi—ond mater o ddawn a medr arbennig yw hynny.

Amcan canolog y llyfr yw dangos y lle sydd i'r Eglwys ym mwriad Crist fel gallu i gyfeirio a thrawsffurfio gwareiddiad, nid mewn ffordd allanol, orfodol, ond fel dylanwad ysbrydol a santeiddiol. I wneuthur hyn ei hangen ar hyn o bryd yw argyhoeddiad newydd nad "drwy nawdd a gwaddol," "nad drwy lu ac nad drwy nerth," ond nerth "y gwirionedd fel y mae yn yr Iesu," a nerth Ysbryd Crist yn breswyliedig ynddi, i'w gwneuthur yn eglwys fwy cenhadol—yn gorff Crist—y gall wneuthur ei gwaith.

Heblaw ei lyfrau, ei bregethau, ei farddoniaeth, a'i ysgrifau yn y cyfnodolion, gadawodd Adams ar ei ol wmbredd o gynnyrch ei weithgarwch mewn cylch arall o wasanaeth, sef ei ddarlithiau a'i anerchiadau i gymdeithasau diwylliadol, llenyddol, athronyddol, etc., na ellir mo'u croniclo petâi hynny'n ateb unrhyw ddiben. Rhoddodd oreu ei astudiaeth a'i brofiad i'r rhain ar hyd y blynyddoedd, ond gallwn gasglu bod amlder ei weithgarwch a'i ffrwythlonrwydd yn dyfod i'r amlwg yn fwy gyd â threigl y blynyddoedd yn y cyfeiriad hwn yn ogystal. Yr ydym yn gorfod edmygu ei wasanaeth rhad yma yn fwy am ei fod yn gymharol ddirgel, ac hefyd am ei fod, er yn ddirgel, yn waith a all, o ran gwerth, ddal goleuni