canol dydd. Y mae papurau ar destunau amrywiol: ar bersonau fel Hiraethog, Ieuan Gwynedd, Rowland Williams, Lewis Morris, Milton a'i oes, James Ward, Wm. James, Watts Dunton a Chymru, a phynciau fel Isymwybyddiaeth, Dirwest (pob arwedd arni), Daioni Pennaf Bywyd, Diwylliant Cymru, Yr oes a'n pobl ieuainc, Rwsia, Dylanwad Dysgeidiaeth ddiweddar Germani ar ei hysbryd rhyfelgar, Cynnydd a'i delerau, Utopia, Piwritaniaeth; a nifer yn Saesneg ar Modernism, Reconstruction, Political Economy, The Supremacy of the State, The Tractarian Movement, a Hiraethog, the Reformer. Gellid meddwl bod rhai ohonynt, fel cesig eira, yn tyfu wrth fynd ymlaen. Y mae ei ddarlith ar Rwsia, er enghraifft, wedi tyfu'n llyfr—cymysglyd, bid siŵr, ond yn gronfa o bob math o wybodaeth am y wlad a'r bobl.
Rhydd y cyfresi hyn o destunau syniad i'r darllenydd am amlochredd a bywiowgrwydd meddyliol a moesol Adams yn y cyfnod hwn—rhwng 60 a 75 oed; ond i brofi eu grym a'u rhin mae'n rhaid iddo ddarllen yr ysgrifau drosto'i hun, ac yna caiff allan, oni chamsyniwn yn fawr, er nad ydynt ar ochr chwydd a chweryl mor gryf â chynt, eu bod am y rheswm hwnnw'n fwy gloew a chlir a llyfn. Ond heblaw hyn, yr oedd yn gymaint myfyriwr ag erioed! Nid yn aml y gwelwyd hynafgwr 70 oed yn tynnu allan raglen o lyfrau (a bwriadau) fel hyn (am 1915-16):
I
1. Foundations.
2. Atonement and Personality (Moberly).
3. The Mystic Way (Evelyn Underhill).
4. Studies in Mystical Religion (Dr. Rufus Jones).
5. Works of Wm. James.
6. Creative Evolution (Bergson).
7. Prolegomena (T. Hill Green).
8. History of Religions (Reville).