Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chân. Yn eu plith yr oedd David Adams, a chyflawnodd yntau, yn ei gylch ei hun, wasanaeth cyn bwysiced â'r un ohonynt. Ac nid llai oedd yr angen am arweiniad newydd yn y cylch hwnnw. Yn wir, credaf ei fod yn fwy, oblegid yng Nghymru, beth bynnag am wledydd eraill, yr ydym yn fwy ceidwadol a rhwym wrth draddodiad yn ein syniadau diwinyddol nag mewn dim; yn enwedig yn ein syniadau am ddatguddiad a chrefydd a'r Beibl. Yn y pynciau hyn y llafuriai Adams, ac fel pob un a gais agor maes newydd ym myd gwirionedd, dioddefodd lawer o wrthwynebiad a pheth erlid. Ond try heresi ddoe yn uniongred heddiw. Ac erbyn hyn dysgir ymhob coleg diwinyddol yng Nghymru sylwedd ac egwyddor y gwirioneddau a ddysgai Adams mewn ysgrif a llyfr flynyddoedd yn ol, ac nid gormod yw dywedyd iddo arwain cannoedd o ddynion ieuainc meddylgar o gaethiwed y llythyren i ryddid gogoneddus eglurhad yr ysbryd. Un o brif deithi ei feddwl oedd ei barodrwydd i groesawu gwirionedd o ba gyfeiriad bynnag y delai—pa un ai hanes, ai gwyddoniaeth, neu feirniadaeth Feiblaidd. Nid oedd ofn y goleuni arno. Yr oedd yn hyddysg yn egwyddorion cyffredinol y gwyddorau naturiol, yn enwedig yn egwyddorion Datblygiad, ac yr oedd yn ei gynefin mewn efrydiau athronyddol. Iddo ef, un oedd pob gwybod yn y pen draw. Ac ni waeth beth oedd y ddysgeidiaeth, os ydoedd wir, câi groeso ganddo, oblegid gwelai ef y byddai iddi, yn hwyr neu'n hwyrach, gadarnhau dinas Duw a chryfhau apêl y ffydd. Parhaodd yn efrydydd hyd y diwedd. Yn briodol iawn y gellir cymhwyso ato yntau y geiriau sydd ar garreg fedd gŵr enwog arall,—'He died learning.'"