XVII. Y PREGETHWR A'R GWEINIDOG.
RHODDWN y lle blaenaf i bregethu'r Efengyl ym mywyd Adams gan mai hyn oedd ymlaenaf yn ei galon. Nid yn unig cyfrifai ef felly, ond gweithredodd yn unol â hynny. Yn nechreu ei fywyd gweinidogaethol cyfrifodd wobrwyon dysg yn golled er mwyn pregethu Crist; yng nghwrs ei fywyd dilynol gwrthododd yr un gwobrwyon—fel ei Arglwydd wedi'r temtiad cyntaf; ac ar ddiwedd ei fywyd, yn ei lescedd olaf, ei ddyhead mawr oedd cael pregethu o hyd.
Ond nid ydym i ddeall hyn fel yn golygu ei fod yn tynnu ei lygad a thorri ei law i ffwrdd fel rhwystrau. Ni theimlai ef fod ei aelodau meddyliol eraill yn ei rwystro ond yn hytrach yn ei helpu. Ni wnâi farddoniaeth ac athroniaeth yn slafaidd wasaidd i'r pulpud, ond yn rhydd wasanaethgar iddo. Gwelsom dorri canghennau isaf coeden er mwyn i'r pren dyfu i fyny, a chlywsom am rai yn darllen yn unig ar gyfer y pulpud; ond yr oedd ei fywyd meddyliol ef fel un organig iach a'i holl rannau'n foddion ac amcanion (means and ends) yr un pryd, y canghennau isaf ac uchaf yn aelodau i'w gilydd ac yn cyfoethogi'r cyfangorff; golud y cenhedloedd " yn cael ei ddwyn i mewn i ddinas Duw. Am y rheswm hwn carai ei fyfyrgell, hyd y byddai ynddi, â'i holl nerth; caffai ynddi ei hapusrwydd arbennig hi ei hun, ac ni ddymunai well am y pryd; ymgollai mewn barddoniaeth neu athroniaeth er ei mwyn ei hun, a châi fwy o'i chyfrinach a'i ffrwyth na thrwy ei defnyddio'n iswasanaethgar i amcan arall. Bid siŵr, y mae yna derfynau yn cael eu gosod i lawr gan y bywyd cyffredinol. Gall y llygad hyd yn oed fod yn rhwystr. Yr oedd yr hen Rabbi Duncan â'i "ben yn ddyfroedd" cyson oblegid