Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gariad gormodol—dybiai ef—at lenyddiaeth Hebraeg. Ond y mae pob bywyd iach yn ddeddf fewnol iddo'i hunan heb eisiau llawer o ddeddf allanol na thocio i gadw'i rannau y tu mewn i derfynau.

Oni alwyd Adams gan natur i fod yn bregethwr, daeth yr alwad, fel eiddo pob gwir bregethwr, o lys uwch. Ar y cyntaf, dywedir bod ei draddodiad yn drwsgl a'i symudiadau yn afrosgo, a'i ddefnyddiad o eiriau hyd yn oed, er ei fod yn llenor da eisoes, yn anffortunus:

"Y mae dy actions fel eiddo assassin, fachan," meddai ei gyfaill Richard Jones wrtho, "a phwy o saint Aberteifi sy'n gwybod beth yw 'panacea'?"

Un o nodweddion mwyaf deniadol—a defnyddiol—ei natur oedd ei hoffter o feirniadaeth: nid yn unig gallai ei dal, ond croesawai hi. Ac yn y modd hwn, a thrwy ymdrech ddyfal, daeth i fod yn siaradwr medrus ac effeithiol. Ond dysgawdwr ydoedd yn y pulpud, eithr nid dysgawdwr sych, ond un â'r gwirionedd a bregethai yn llosgi'n eirias yn ei galon ac yn oleu yn ei feddwl, ac yna ar ei wefus. Ni allai ganu, ac nid oedd eisiau iddo ganunid oedd ei genadwri'n un y gallesid ei chanu! Ond os nad oedd yna gân, yr oedd yna dân yn aml,—gallesid defnyddio ymadrodd a gymhwyswyd, ni a gredwn, at Jonathan Edwards—"logic on fire"—ato yntau. Cofus gennym i un o'n pregethwyr mwyaf llygadog ddywedyd, wedi clywed Adams (ugain mlynedd yn ol): "Dyna bregethu'r dyfodol." Yr oedd hwnnw wedi clywed rhai o broffwydi'r diwygiad cymdeithasol yn ein prif drefi, ac yn ddïau yn teimlo nad peth i'w ganu yw gwirionedd eirias—fel y mae'n bod i'r proffwyd, a bod yn bryd trosglwyddo'r agwedd o ganu sy'n perthyn i grefydd i'r cantorion.