"Yr oedd y display areithyddol yn rhy debig i fireworks prydferth, amryliw, ond heb wefr ynddynt i ddychrynnu unrhyw bechadur hyf i ddifrifoldeb ac ofn."
Ar yr olwg gyntaf, gallasai rhai o'r cyfeiriadau hyn symbylu'r atebiad, "Y meddyg, iacha dy hun—pwy sy'n arfer mwy o syniadaeth a saernïaeth ynglŷn â'i bregethau na thydi?" Ond ni fyddai'r feirniadaeth yn deg, gan mai'r hyn a gondemnia yw nid presenoldeb syniadaeth oleu, ond absenoldeb neges ac amcan. Yn wir, ceir ef fwy nag unwaith yn annog myfyrwyr i barchu deall eu cynulleidfaoedd.
"Ceisiaf roddi i'r cynulleidfaoedd o'r goreu sydd gennyf bob amser—offrwm cariad gwirioneddolheb fyth anobeithio y deuant i'w werthfawrogi. Ac y mae yna rywrai'n wastad yn ei werthfawrogi eisoes."
Ond ni allasai neb ddywedyd bod ei syniadaeth yn llethu ei genadwri—yr oedd honno'n llosgi'n oleu drwy holl foddion y cyflwyniad ohoni. "Yr ydym yn derbyn yn ol fel y rhoddwn," meddai wedyn. "Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd hefyd yn brin." Tebig mai ymwybyddiaeth o hyn, ac o'i ddanfoniad gan Dduw, sy'n cyfrif am y ffaith ei fod yn hau mor helaeth yn y seiat ag yn y cwrdd mawr yn wir, yn helaethach, os iawn barn un cyhoeddwr: "Deuwch yma nos Iau," meddai, "dyna'r pryd y bydd Mr. Adams yn rhoddi'r gems inni."
Yr oedd hefyd yn hoff o eglurebau, y rhai a ddetholasai o feysydd eang ac amrywiol ei ddarllen, mewn llên a barddas, hanes a gwyddoniaeth. Ond yr oeddynt heb eithriad nid yn rhai oddiallan, yn addurn tinsel, ac amgylchosodiad" ffansi, ond fel eiddo ei Arglwydd, yn gwbl iswasanaethgar i bortread y gwirionedd: y rhai hyn eto, fel holl offer pregethu, yn foddion y genadwri ac nid yn amcan.