Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddywedwyd eisoes. Ni a'i cawn mewn hedyn (in germ) yn ei ysgrif ar "Gredo a Buchedd " yng nghyfnodolyn y coleg; ac yna'n ymddatblygu ac ymgrofennu fel coeden drwy waith ac adwaith ar ei chylchfyd amrywiol cynwysedig o ddoctoriaid Hawen, beirniaid Bethesda, a brodyr brwydrol Cyfarfod Gweinidogion Lerpwl, yn gystal â damcaniaethau Hegel a Darwin, James a Bergson, a llu eraill. Dyma'r cnewyllyn:

"Y mae posibilrwydd datguddiad oddiwrth Dduw i ddyn yn seiliedig ar gred yn Nuw fel Tad ac Addysgydd moesol dyn; a bod dyn fel plentyn i Dduw mewn cymundeb posibl ag Ef bob amser."

Ond golygai pregethu hyn ymladd ac ymdrech yn erbyn yr athrawiaethau deddfol na wnaent degwch â hi. A hyn a wnaeth am amser. Hyn hefyd a'i sêl dros burdeb moesol—sydd yn cyfrif am y nodyn milwrol oedd yn ei bregethu. Yna daeth i wel'd nad oedd yr amcan uchaf yn cael ei gyrraedd drwy bwysleisio gwahaniaethau; a chawn y nodyn moesegol yn bennaf yn aros, ac yn cael ei ategu gan olygiadau athronyddol ynghylch unoliaeth a chynnydd graddol. Wedi diwygiad 1904—5, nid yw Crist, efallai yn llai o ddelfryd moesol, ond y mae'n fwy o Waredwr, a daw ffydd neu " "ganfyddiad ysbrydol " yn ol i'w lle canolog yn y wybodaeth o Dduw.

Y mae'n ddiddorol sylwi fel y daw yn ol yn ei ddiwedd at ei ddechreu. Wele fraslun o bregeth yn perthyn i gyfnod Hawen, ac ychydig o argraff ei ddechreuadau athronyddol arni, sydd yn cydgordio â'i safbwynt diweddaf (gyd â gwahaniaeth). Y testun yw "Calon i'm Hadnabod " (Jeremia, 24'):—

"Rhaid wrth lygad cyn meddu unrhyw ddirnadaeth am 'brydferthwch lliw, a chlust cyn gwybod dim am "swynion cerddoriaeth.