"Rhaid teimlo poen cyn deall ei natur, a mwynhau pleser cyn ei ddeall yntau.Yr un modd Hiraeth, Cas, Cariad.
Telerau canfyddiad yw
1. Argraffiadau (impressions).
2. Ffurfiau syniadol i'w toddi iddynt.
3. Ymwybyddiaeth yn eu huno'n gyfanwaith.
Telerau canfyddiad o egwyddorion ysbrydol yw
1. Teimladau (Emotions) i ddylanwadu arnynt;
2. Ffydd i'w derbyn fel amlygiadau o Dduw anweledig;
3. Rheswm i'w dosbarthu a'u hunoli.
a. Heb ymdeimlad o Dduw yn y galon amhosibl profi ei fodolaeth i fodlonrwydd.
b. Heb gariad at Iesu a chydnawsedd â'i egwyddorion, amhosibl ei ddeall.
c. Fel hyn, mae'n rhaid cael Duw ynom cyn deall Duw fel y mae'n ddatguddiedig inni, yn Natur, a'r Beibl, a'r Mab. Cym. y ddadl rhwng Bernard ac Abelard parthed blaenoriaeth Ffydd a Rheswm. Ond y mae yna wahaniaeth mawr; y mae wedi dysgu llawer ar y ffordd. Dysgodd, yn neilltuol, nad yw'r Fabolaeth Ysbrydol mor uniongyrchol â'r un naturiol; fod eisiau rhywbeth fel marwolaeth ac ail—gychwyn; bod Duw yng Nghrist nid yn unig yn Wirionedd ddangos i ddyn ei fod yn y llaid, ond hefyd yn "Ras" i'w godi allan ohono.
Wrth sôn am ddylanwad a chanlyniadau ei bregethu, dylasem gofio i Dr. Dale geisio gwneuthur gwaith Moody un adeg, a methu; a da gan rai ohonom heddiw mai felly y bu. Nid ydym yn deall i Adams geisio hyn oddigerth ar raddfa fach yn y slums, ac y mae'n dra sicr nad oedd ganddo ddawn neilltuol i hynny. Ar yr un pryd yr oedd ei genadwri'n hollol bendant, ac yn llawn apêl at