Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/187

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac astudiaeth—gesyd y gwaith o fugeilio. "Mae'n rhaid i weinidog, os am fod yn llwyddiannus, fod yn ymwelydd â'i bobl," yw ei eiriau, ac yna, pan yw yn casglu ei sylwadau at ei gilydd:

Bywyd santaidd, meddyliau diwylliedig, ac ymroddiad ffyddlon i waith bugeiliol—hyn, ynghyd â gweddi daer ar Dduw am Ei fendith,—a'n gwnâ'n weinidogion defnyddiol a llwyddiannus."

Ac nad geiriau gwag yw y rhain, wele lythyr o'i eiddo at swyddogion Grove Street yn ei gystudd olaf:

"ANNWYL FRODYR,

"Caniatewch i mi wneuthur apêl daer atoch fel swyddogion i ystyried y pwysigrwydd o ymweled mor fynych ag sydd yn bosibl ag aelodau'r eglwys. Gwneuthum i y gwaith hwn yn weddol gyson yn ystod fy ngweinidogaeth. Credaf fod llwyddiant eglwysi yn dibynnu ar ymweliadau mynych ar ran gweinidog a diaconiaid. Yn gymaint â'm bod i yn methu â'i wneuthur yn awr, apeliaf atoch chwi i ymdrechu gwneuthur hyn o ddyletswydd yn fwy cyffredinol a thrwyadl. Gwn fod rhai ohonoch yn gwneuthur hyn yn ffyddlon, a ffyddlon iawn hefyd, trwy y blynyddoedd. Ond hoffwn i'r cwbl ohonoch wneuthur y cwbl a alloch ynglŷn â'r gwaith angenrheidiol hwn. Gwn nad yw cyfleusterau, oherwydd trefniadau masnachol, yn caniatau hamdden cyfartal i bob un ohonoch i wneuthur hyn. Hyderaf y gwnâ pawb ei ran yn ol ei allu.

Gan lwyr ymddiried yn eich ffyddlondeb ynglŷn â phob rhan o waith yr eglwys.

Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,

D. ADAMS,