Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dengys y nodyn hwn hefyd nad edrychai ar fugeilio fel gwaith arbennig y gweinidog y mae yn waith i eraill yn ogystal. Y mae hyn yn gyson â'i syniad am eglwys y Testament Newydd fel cyfangorff organig, gyda gwahaniaeth doniau a swyddogaethau, a phawb yn gwasanaethu ei gilydd. A dïau y cyfrifai hwnnw'n well gweinidog a fyddai'n gallu cael pob un i wneuthur ei waith na'r sawl a fyddai'n treio gwneuthur y cwbl ei hun. Am hyn ni cheisiai arglwyddiaethu ond mewn cariad, na "blaenori " ond "mewn talu parch." Y mae'r gweinidog i geisio cadw'i bobl " mewn tangnefedd a chydweithrediad heddychol. Ond i wneuthur hyn, mae'n rhaid iddo feithrin parch iddynt a chariad tuag atynt... Nid posibl hunanymwadu er eu mwyn oni fyddom yn eu caru'n wirioneddol." Y mae'r gweinidog anianol yn symud cydrhwng eithafion autocratiaeth a gwaseidd—dra. Osgoai ef y naill a'r llall mewn gwasanaeth, er yn ddïau ei bod yn rhwyddach iddo—wrth natur—osgoi'r olaf na'r blaenaf.

Ysgrifennodd y llythyr a ganlyn at yr eglwys (nid y swyddogion yn unig) Ionawr 1, 1922:

109 Canning Street,
Ion. 1, 1922.

Ar ddiwedd un flwyddyn a phan yn wynebu blwyddyn newydd, caniatewch imi anfon gair neu ddau o longyfarchiad i chwi. Adeg y dymunwn' Flwyddyn Newydd Dda' i'n gilydd yw y dyddiau hyn, ond da fyddai inni gofio'n barhaus mai'r hyn a'i gwnâ yn flwyddyn newydd dda yw ymgysegriad newydd i wasanaethu Duw trwy gyflawni'n dyletswyddau eglwysig a bydol yn fwyfwy ffyddlon. Diolchaf o'm calon i chwi fel aelodau am eich ffyddlondeb a'ch haelioni dihafal yn ystod y misoedd diweddaf pan