Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/193

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbrydol a moesol. Yr oedd wedi ei feddiannu gan ddelfryd y proffwyd, a cheisiai gael gan realiti i'w ategu; yr oedd am gael allan bod y sêr yn eu graddau yn ymladd drosti; bod daioni yn natur pethau: "fel hyn yr wyf fi'n gweld," meddai, a yw'r bydysawd yn gweld yn yr un ffordd?" Dyna'n ddïau pam yr apeliai cyfundrefn Green ato yn fwy nag eiddo Bain a Mill, er i honno gael y cyfle cyntaf—am ei bod mewn mwy o gytgord â'i ddelfryd a'i ymwybyddiaeth foesol. A phan ddaeth, yn niwedd ei oes, i roddi lle amlycach i fewnwelediad yn y bywyd ysbrydol nag a rydd Delfrydiaeth, ni olygai hynny ei fod wedi troi ei gefn ond ar ran o gyfundrefn Green. Fe wêl y darllenydd fod Prolegomena to Ethics yn cael lle yn y raglen olaf yn gystal â'r flaenaf o ddarllen a roddwyd ger ei fron, er bod ugain mlynedd rhyngddynt, yr hyn a ddengys y lle uchel—a dwfn—oedd i'r llyfr yn ei feddwl a'i serch.

Ceisiodd wneuthur Athroniaeth yn llawforwyn nid yn unig i'w fywyd ysbrydol a moesol, ond hefyd i Ddiwinyddiaeth. Yr hyn a wnaeth oedd cario drosodd i faes yr olaf y gwirionedd o unrhywiaeth rhwng Duw a dyn oedd yn oblygedig yn ei ddelfryd ysbrydol, a'r syniadau o ddatblygiad ac angenrheidrwydd a ddysgodd gan Athroniaeth; ac ymladd yn erbyn yr elfennau oedd yn wrthwynebol iddynt yn yr hen ddiwinyddiaeth, sef yr elfennau o ddeddfoldeb, mympwyaeth a digwyddiad.

Nid oedd yn wrth—ddeddfol, ond ni chaniatâi mai perthynas yn dibynnu ar ddeddf allanol yw'r berthynas rhwng Duw a dyn, ac ar y llaw arall y mae lle i'r ddeddf yn nisgyblaeth dyn, "fel cwrs elfennol o addysg hollol angenrheidiol," ac eilwaith "fel cyfrwng i roddi ffurf i'n dyletswyddau tuag at Dduw a'n cyd—ddynion." Gwnâ i'w syniad o angenrheidrwydd estyn nid yn unig dros berthynas Duw a'r unigolyn, ond hefyd dros hanes i gyd. Y