Calfiniaeth yn ymyrryd â'r hawliau hyn, hyd oni welodd fod ceisio noddfa i ryddid mewn Hegeliaeth fel rhoddi gofal yr ŵydd i'r cadno—i'w phluo a'i llyncu! Parhâi ei deimlad ynghylch personoliaeth Duw a dyn i ddwyshau hyd y diwedd. Teimlir y dwyster hwn yn ei ysgrif ar lyfr Syr Henry Jones ar "Ddinasyddiaeth (Efrydydd, Mehefin, 1921), a'i feias hynod yn erbyn galw Duw yn berson, drwy sôn am "Y Da," ""Y Rheswm Cyffredinol," etc., a thros alw'r Wladwriaeth yn berson moesol. Parai hyn boen mawr iddo; a chredwn iddo gael llawenydd cyfartal yn natganiad olaf yr athronydd hyglod mai Cariad sydd ar orsedd y bydysawd, a'i bod yn rhaid cael Person i garu!
Eto, er na chafodd y "ddiwinyddiaeth newydd " hon gyfleustra i wneuthur iddi ei hun gorff cyfaddas mewn cyfundrefn a llyfr i gyfoethogi'n llenyddiaeth ddiwinyddol, cydnebydd pawb diragfarn i'w gyfraniad ef i ddiwinyddiaeth Cymru fod yn un sylweddol a phwysig. Eto, dïau iddo wneuthur ei wasanaeth pennaf yn y maes hwn fel arloeswr neu flaengloddiwr yn mynd o flaen ei oes i dorri i lawr ganghennau a phrysgwydd oedd yn rhwystro cynnydd. Bu'r hen gyfundrefn o wasanaeth unwaith, ond teimlai llawer ei bod bellach yn fwy o rwystr nag o help; ac er na roddodd ef gyfundrefn ddigonol yn ei lle, rhwyddhaodd y ffordd i eraill. Yr oedd eisiau medr a menter mawr i wneuthur hyn, ac yr oedd y ddau ganddo ef.