gyffredinol a pharhaus gwirionedd a bywyd. Am hynny, llithrodd Protestaniaeth yn ol yn yr ail genhedlaeth i'r syniad mai cyfundrefn o ddogmâu o awdurdod allanol oedd Cristnogaeth.
Ond yn ystod y 19 ganrif daeth egwyddor y Diwygiad i weithrediad mwy rheolaidd a chyffredinol, gan ddwyn dogmâu a sefydliadau i braw ffaith a hanes. Gweithiodd yn arbennig ar hyd dwy linell Gwyddoniaeth a Hanesiaeth. Dysgasai Francis Bacon mai'r ffordd i adnabod ac esbonio natur oedd sylwi ar ei gweithrediadau hi ei hunan, ac nid gwau dychmygion amdani ar sail rhagfarnau traddodiadol. Yn ddiweddarach dygwyd yr un ysbryd i ymchwiliadau hanesyddol o bob math. Yn arbennig canfuwyd mai un amod anhepgor gwybod beth yw gwirionedd Cristnogaeth ydoedd mynd yn ol at ffeithiau ei hanes. Allan o'r ymchwiliad hwn y cododd beirniadaeth hanesyddol ar lenyddiaeth yr eglwys ac ar y Beibl. Diau y dyfeisiwyd llawer tyb na ddaliai'r praw, megis eiddo Strauss ac F. C. Baur, ond rhan oedd hynny o'r ymdrech a'r ymchwil am ben ffordd hanes. Ac yn raddol darganfuwyd prif linellau hanes crefydd yn yr Hen Destament a'r Testament Newydd, yn ogystal ag yn y Tadau bore, gyd a chymaint sicrwydd ag a ellir ei gael mewn hanes. Gwaith arafach a fu dwyn yr athrawiaethau Cristnogol wyneb yn wyneb â ffeithiau byd a bywyd fel eu dadlennir mewn gwyddoniaeth heddiw, a gwaith nad yw eto ond wedi ei ddechreu.
Er hynny, o ddyddiau Schleiermacher yn nechreu'r ganrif ddiweddaf i lawr, y mae'r ysbryd a'r dull gwyddonol wedi treiddio fwyfwy i ddiwinyddiaeth, a chydnabyddir heddiw nad oes sylfaen safadwy i athrawiaeth Gristnogol ond y profiad Cristnogol yn ei berthynas â phrofiad cyffredinol dynion o'r byd i gyd. Cychwynnodd y mudiadau hanesyddol a gwyddonol mewn diwinyddiaeth, felly, yn yr Almaen ryw ganrif a chwarter yn ol. Yn araf y treiddiasant