Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parch David Adams (Hawen).djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II.—YSGOL A CHOLEG.

CAFODD Dafydd, fel y plant eraill, ei ddysgu i fynychu moddion gras o'r crud. Eto nid ydym wedi gallu cael allan fod yna unrhyw gyfarfodydd na chymdeithasau neilltuol i blant, na mantais i ddynion ieuainc i arfer eu doniau, megis a geir yn ein dyddiau ni. Am bob magwraeth arbennig i'r ieuenctid, dibynnai'n teidiau, gallem feddwl, yn gwbl ar yr Ysgol Sul. A barnu wrth yr emynau a ganodd iddi, meddyliai John Adams yn uchel am ei swyddogaeth addysgol, a hyd yn oed ei heffeithiolrwydd ysbrydol, fel y prawf y pennill a ganlyn:—

Dan fendith Iôr bo'r Ysgol Sul
Er iawn hyfforddi llawer mil
Pa fodd i rodio'r llwybr cul,
Iawn orchwyl i bob rhai :
Ag uchel lef y geilw hon
Ar holl drigolion daear gron
I dd'od i gyfranogi'n llon

O'i rhoddion pur didrai. Bu'r Ysgol Sul y pryd hwn, ac am flynyddoedd wedyn, yn foddion gras a goleuni i bobl ieuainc a hen ein gwlad; a hyn sydd sicr, nad oedd modd i awgrym yng nghylch ei heffeithiolrwydd ddyfod o gyfeiriad yr addysg a gyfrennid yn ein hysgolion bob dydd. Yr oedd y rhai hyn yn ddilun a diffrwyth i'r pen; y plant yn mynd ac yn dyfod fel y byddai cyfleusterau cartref a maes a magu'r baban yn caniatau; a'r "ysgolfeistr teithiol" hefyd—clerigwyr, morwyr, milwyr—yn dyfod ac yn mynd, yn dyfod am fywioliaeth ar y ffordd i fywioliaeth well. Mewn ysgol felly y bu Dafydd Adams yn Nhalybont hyd onid oedd