Prawfddarllenwyd y dudalen hon
mwy cymhleth. Trwy ei holl ymchwil a'i bererindod feddyliol, ni chollodd afael unrhyw adeg ar hanfodion y gwirionedd am y bywyd da a Christnogol, ond dysgodd i'w oes gyd ag eglurder ac argyhoeddiad cynhyddol ymhle'r oedd canol ffordd yr Iechydwriaeth. Efô fyddai'r olaf i honni awdurdod terfynol i'w syniadau na gofyn inni aros gyd â'i athrawiaethau. Ond ffordd y gwirionedd o hyd i ni fydd efelychu ei ysbryd llafurus ac ymchwilgar, ei onestrwydd a'i ddewrder moesol, ei ffydd yn y gwirionedd annherfynol, a'i ffyddlondeb i'r weledigaeth a gafodd. "Ef oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo."