yn ymguddio mewn gwrthrychau unigol," oblegid gellir trafod y gwrthrych unigol fel peth i'w ddarnodi neu ynteu fel peth i'w ddisgrifio, ac apelio at y deall neu ynteu at y dychymig. Yn ol un beirniad, y mae ei farddoniaeth yn ddiffygiol mewn "afiaith," yn ol un arall mewn spontaneity. Ac y mae gwir yn hyn; wrth ddarllen rhai o'i weithiau, teimlwn fel rhai mewn ystafell o ddodrefn celfyddydol yn hytrach nag mewn perllan o goed naturiol. A defnyddio term a fu yn hoff ganddo unwaith mewn cysylltiadau athronyddol y mae ei weithiau mwyaf ar y cyfan yn ddiffygiol mewn angenrheidrwydd rhydd (free necessity), yn fwy fel camlasau yn cario badau gwerthfawr a goludog, nag afonydd yn rhedeg yn rhydd, yn dyfrhau'r glynnoedd, yn troi melinau, neu gludo badau fel ail bethau, ond yn bennaf peth yn rhedeg o'r môr ac i'r môr—mewn rhyddid a rheidrwydd.
Y gwir yw bod Adams, a chaniatau bod ganddo awen o'r math hwn, yn ormod o efrydydd i roddi'r chwarae teg mwyaf iddi. Pe treuliasai ei forêau yn fwy aml ar y Carneddi yn lle gyd â'i lyfrau, buasai'n annhraethol well bardd. Yr oedd ei awydd anniwall i ddarllen ac astudio yn rhwystr iddo mewn ffordd arall fel artist; ni chymerai amser i saernïo ei weithiau ac i wneuthur ei ddisgrifiadau yn fwy cyfartal â lledneisrwydd ac awgrymiadaeth anfeidrol realiti. Efallai mai perthyn i "ffurf" yr oedd hyn yn ei olwg, ond y mae'n ddiffyg dybryd yn ei holl weithiau. Gwelir hyn yn ei ansoddeiriau; er iddo basio heibio'r nodweddion sydd yn amlwg i eidion, megis "dôl feillionnog," "ffrwd risialog," etc., ni ddywed ei ansoddeiriau nemor ddim o werth. Wele enghreifftiau o'r bryddest ar" Fywyd": "hedydd pefr," "golau can," "chwyddawg wres" "cwmwl derch," "gogoniant claer," "bwriadau myg," "y Drindod fyg," "Gwirionedd myg," "gosgordd wemp," "deiliog bren," "prydferth flodau,"