"pêr aeronau," etc. Y mae'n amlwg yn brasgamu ymlaen â'i syniadaeth fras, heb ymdrafferthu gyd â geiriau. Y gwir yw bod ei earnestness yn feddyliol a moesol, ac nid yn artistig, a'i fod yn y peth hwn yn euog o'r arwynebolrwydd a gondemnia mewn syniadaeth. Ni wyddom a oedd yn ddarllenwr mawr o Hiraethog[1] y pryd hwn, ond daw yr un teimlad o awyrgylch inni wrth ddarllen " Bywyd " Adams ag wrth ddarllen "Emmanuel" Hiraethog—teimlad o gyffredinedd llwyd yn y disgrifiadaeth agos tra y mae yna gefndir o syniadaeth fawr y tu ol, gyd â'r gwahaniaeth bod syniadaeth Hiraethog yn fwy dychmygfawr, ac un Adams yn fwy athronyddol neu ddeallol. Ond yr oedd gan y ddau frws rhy fawr—fel brws gwyngalchu —i baentio darluniau. "Oni ellwch adeiladu Parthenon, codwch Byramid," meddai Flaubert.
Y canlyniad yw bod ei farddoniaeth yn ddiffygiol o ran natur ei syniadaeth a'r gweithiad allan. Nid busnes cofiannydd yw athronyddu ei wrthrych a'i waith, ond y mae'n amlwg i ddyn plaen a fo'n prynnu llyfr o farddoniaeth ei fod yn disgwyl cael rhyw gwmnïaeth ynddo na chaiff yn y papur newydd nac ychwaith gan hanes a gwyddor. Eithr ni chredwn y buasai neb wedi bod yn darllen Datblygiad Adams yn troi i'w bryddest ar "Fywyd" er mwyn mwynhau'r gwahaniaeth hwn. Ag arfer cymhariaeth a awgrymir gan waith Mr. Gladstone yn defnyddio dau fwrdd ysgrifennu yn ei fyfyrgell, mewn ffenestri gwahanol ac at waith gwahanol, o brin y mae pryddestau Adams yn mynd â ni i ffenestr wahanol i'w lyfrau, ac yn rhoddi inni weledigaeth newydd.
Y mae'n werth sylwi hefyd iddo fod yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth yn bennaf ar destunau a apeliai at ei ochr feddyliol a moesol, megis Yr Athro, Addysg,
- ↑ Gwêler ysgrif yr Athro W. Jenkin Jones (tud, 157).