Prifysgol Cymru, Enwogrwydd, Gorthrwm, ac Oliver Cromwell. Yr oedd yn fwy cartrefol, yn fwy yn ei fyd ei hun na'i gydymgeiswyr y pryd hwnnw, yn y meysydd hyn, ac yn alluog i ddywedyd rhywbeth ystyrlawn, gwerthfawr, a grymus yn aml iawn amdanynt. Y mae'n ddiddorol cymharu ei bryddest ar Addysg" ag un arall o waith un a ddaeth i fod yn brifardd. Tröed y darllenydd yn ol i'r dyfyniadau a roddwyd o bryddest Adams, a chymhared â'r llinellau gwacsaw, cyffredinol, annelwig hyn:—
"Ond dyn ardderchog ddyn! y mae diwylliant
Yn tywallt dydd yn ddilyw o ogoniant
Ar amcan ei fodolaeth. Mae cynhyddu
Yn un o'r deddfau sydd yn penderfynu
Ei wynfyd a'i barhad. Fe ymestynna
Hyd at berffeithrwydd Duwdod, ac fe nofia
Ar lif gwybodaeth a myfyrdod tawel
Drwy ddrychfeddyliau nad yw profiad angel
Yn gwybod dim amdanynt. Hen feddyliau
A chalon Duw yn tywallt gwybodaethau
Ei hanfod trwyddynt i fywiogi gallu
Syrthiedig ddyn, a'i droi i efelychu
Yr hwn a'i gwnaeth."
Y mae sŵn mawr gan bethau fel hyn, ond ni olygant ac ni ddywedant nemor ddim. Ysgrifennwyd hwy yn y cyfnod y gellid ei alw yn gyfnod Islwynaidd, pryd yr oedd beirdd ieuainc yn dynwared allanolion Islwyn, fel y bu beirdd ieuainc Lloegr yn dynwared coler Byron. Bardd y cyfnod hwn oedd y lindys y daeth y "Bardd Newydd" allan ohono, am yr hwn y cwyna Adams ei fod yn camgymryd tryblith syniadol am ddyfnder, ac yn barddoni damcaniaethau gwyddonol ac athronyddol.