A chredwn fod yna le i'r gŵyn. Yr oedd camsyniad y "bardd newydd yn un tebig i eiddo'r meddylegwr (the psychologist's fallacy), sef tybied bod yn rhaid i syniad am gochni fod yn goch; yn yr un modd yr oedd y bardd wedi dyfod wyneb yn wyneb â thywyllwch bodolaeth, ac yn meddwl mai'r unig ffordd i'w ddisgrifio oedd drwy fod yn dywyll. Ond ni all darlun o gwmwl fod yn gymylog, neu ynteu nid darlun o gwmwl mohono—nac o ddim arall.
Y mae'r datblygiad afiach hwn wedi cyrraedd ei isafbwynt yn y bantheistiaeth baganaidd ddiweddar sydd yn gwneuthur pot—pourri o holl werthfawreddau bodolaeth, cân y fwyalch ac iasau'r butain, baldordd y meddwyn a llawenydd yr Ysbryd Glân, marwolaeth y Groes ac angladd Cock Robin,—ac felly'n gwneuthur y syniad o unoliaeth yn ddiystyr, gan na fyddai neb synhwyrol yn sôn am unoliaeth cawl.
Er bod Adams mor gyfarwydd a'r rhan fwyaf yng Nghymru â'r syniadau o unoliaeth a datblygiad, i'w glod y mae'n rhaid inni ddywedyd na wnaeth ond defnydd cynnil a chyfreithlon ohonynt fel cynnwys i'w farddoniaeth. Ni ddeliodd, chwedl yntau, mewn nwyddau anghyfreithlon." Yr oedd yn onest fel bardd; gwell ganddo fod yn aneffeithiol nag yn anonest. Ni cheisiodd ychwaith gynhyrchu effeithiau syniadaeth ffres—y thrill a berthyn yn gyfreithlon i ddychmygiaeth fawr—drwy roddi ysgytiad i'n teimladaeth ysbrydol, a pheri'r ias a ddaw yn hytrach o sathru ar bethau santaidd nag o ogoneddu pethau cyffredin. Hyd y gwyddom, ychydig o sylw sydd wedi ei dalu i'r math yma o onestrwydd artistig yng Nghymru. Y mae'r cynganeddwr wedi arfer gwneuthur syr yn seraff, neu giwrad yn gerub heb un esgus dros hynny ond cynghanedd; eithr heblaw hyn y mae angylion rif y gwlith wedi eu dwyn i mewn i "wasanaethu " ar y beirdd mewn cyfyngder drychfeddyliol, Ac fel y mae'n diwinyddiaeth