rai prydiau wedi cysylltu gwynfyd sant a bywyd anifail, y mae'r beirdd wedi ceisio cynhyrchu effeithiau barddonol drwy achosion ffugiol a chelfyddydol (artificial). Ni ellir cyhuddo'n cyfaill ar y cyfan o'r drwg hwn.
"Ni chyfranoga Hiraethog," meddai mewn un man, "ond i fesur bychan o'r addoliad a delid i Anian gan Wordsworth a Keats, a chan Islwyn. Dyn, a chymdeithas, ac ymddygiadau Duw tuag atynt yw maes neilltuol ei fyfyrdod." Yr oedd hyn yn wir amdano yntau, gyd ag un eithriad. Ni chofiwn iddo erioed alw ein[1] sylw ni at arucheledd a phrydferthwch cymysg Nant Ffrancon, ac amrywiaeth symudol gwedd y mynyddoedd mewn storm a thês, fore a hwyr, haf a gaeaf, ac nid ydym yn gwybod iddo wneuthur pennill erioed iddynt; ond bob tro yr aem i Barc Sefton yn Lerpwl, yr oedd yn rhaid ymweled â cherflun Highland Mary, ac aros am rai munudau i dalu gwrogaeth i'w phrydferthwch. Pan gofiwn hyn, nid rhyfedd iddo fod mor llwyddiannus yn ei libretto Dafydd ab Gwilym. Yn wahanol i'w bryddestau mawr teimlwn ein bod yma nid ar lan camlas ond yn sŵn "ffrydiau byw, rhedegog." Ac y mae'r Gymraeg a'r Saesneg, fel ei gilydd, yn llawn[2] lilt a thlysni, fel y mae'n amhosibl gwybod pa un yw'r gwreiddiol a pha un y cyfieithiad. Cymerer y tair enghraifft a ganlyn, gan gofio mai "Art for Art's sake" yw hi yn awr—nid dirwest:
Mae Anian oll yn fyw o gân,
A'i hwyneb glân yn gwenu,
Mae'r blodau'n gwrido ar bob twyn
Mor fwyn, a'u swyn i'n synnu!
A'r 'Deryn Du ar frig y berth
I'w Fwyalch ferth sy'n canu.