dechreu darllen Cæsar gyd â Mr. Jones, ac arweiniodd Mr. Herbert fi i drothwy cysegredig yr iaith Roeg. Atgofiaf yn dda y parchedig ofn a'm meddiannai pan glywn yr athro am y tro cyntaf yn darllen En arche ên ho Logos,' &c. (Ioan i. 1). A phan fyddaf yn darllen y geiriau hyn yn awr, teimlaf yn fynych 'bwynt y dywediad hwnnw o eiddo Wordsworth:
'At length the man perceives it die away,
And fade into the light of common day.'
O, fel y mae cynefindra yn ein hysbeilio o rai o'n teimladau mwyaf cysegredig!
Gyd â dyfodiad Mr. Herbert daeth un cyfnewidiad pwysig—gosodwyd gwedd Eglwysig ar yr ysgol. Yr oedd yn rhaid i'r ysgolheigion addaw myned i'r llan ar y Sul os oeddynt am fwynhau breintiau yr ysgol. Ar ol hysbysu'r telerau i'm rhieni, anfonasant fi at y Parch. John Jones, y ficer, i ymholi a oedd hyn i fod yn amod aros yn yr ysgol. Wedi derbyn atebiad cadarnhaol, tynnwyd fi o'r ysgol, ac allan y bûm am dair blynedd heb unrhyw foddion addysg yn un man. Fel ysgolion gramadeg y cyfnod hwnnw, Groeg a Lladin a gaffai y lle pwysicaf yn y curriculum. Gorfodid ni i ddysgu ar y cof yr Eton Latin Grammar, gyd â rheolau y gystrawen yn yr iaith Ladin ei hun. Wedi 'trysori'r treigliadau a rheolau 'r gystrawen, caniateid inni ddechreu cyfieithu Cæsar. Ar adegau cymerid ni drwy rannau o'r Latin Delectus yn gyd'fynedol â Cæsar. (Cymru: Mehefin 1894).
Dyna'i gwrs addysg, i bob ymddangosiad, ar ben, a hynny nid am nad oedd ei dad yn prisio addysg, ond am ei fod yn prisio egwyddor yn fwy. Gan nad oedd ysgol arall yn gyfleus, na modd i'w yrru i Ystradmeurig, aeth y bachgen i weithio i'r gwaith mŵn. Oddiwrth y cof-