CODWN YN FORE.
1 Codwn yn fore
A gweithiwn ein gore,
Y bore am fywyd llawn hoen;
Y nos roed i gysgu,
Y bore am ddysgu—
I ddysgu heb ffwdan na phoen.
2 Un bore yw'r huan,
Mor fyw ac mor fuan
Y cwyd ef i'w daith drwy y nen;
Cwyd ŵyn bach i lamu,
A'r adar i ganu
Yn fore ar frigyn pob pren.
3. Yn fyw gan lawenydd
Y bore mae'r 'mennydd
Yn barod at wersi y dydd;
Mae'r meddwl yn wisgi,
I'r cof hawdd yw dysgu,
A siriol a mwyn yw pob grudd.
4 Ar ol bore godi,
A'r dasg wedi'i dysgu,
Dan ganu i'r ysgol ni awn;
Pob wyneb yn llawen,
Pob pen yn llawn awen,
I ganu a dysgu yn iawn.
Wrth fynd drwy ei bapurau, cawsom syndod hyfryd wrth ddarllen ugeiniau lawer o'i ganeuon i ffrindiau dan amgylchiadau neilltuol—o alar neu lawenydd; syndod, am ei fod wedi gwneuthur cymaint ohonynt, am ei fod wedi cael amser i wneuthur, ac efallai, yn bennaf oll, am ei fod yn ei hen ddyddiau'n teimlo awydd gwneuthur,