natur, drwy ddyfod i gyfathrach agosach ag ef, neu ynteu ei weld yn wylo yn angladd cyfaill: yr oedd hyn iddynt, ar ol sêl eirias y Sul, neu ddisgyblaeth lem y cwrdd eglwys, fel pasio i gysgod coedydd grasol o ganol tes canolddydd haf. Awyrgylch hyfryd felly oedd ar ei aelwyd fel mater o natur yn gystal ag o egwyddor. Cariad a bregethai, a chariad a arferai, ac ynddo yr ymhyfrydai; a chafodd bob anogaeth a help i hyn gan ei briod, ac wedyn gan ei blant. Ar yr olwg gyntaf, yr oedd yn syndod i'w gyfeillion, a wyddai hyn, ddarllen ei gondemniad o Paul am beidio â rhoddi lle digonol i'r ddeddf! Ar yr olwg gyntaf yn unig, oblegid yr oedd hyn yn hollol gyson â phregethu ei flynyddoedd cyntaf yn neilltuol, pryd yr oedd ei sêl tanllyd dros burdeb yn cael ei orfodi gan gyflwr ac arferion y bobl i bwysleisio purdeb moesol fel mynegiad o gariad efallai'n fwy na chariad ei hun—fel y gwnaeth Iago o'i flaen. Nid teimlad hylifol ac anwadal oedd y cariad a bregethai ef, ond egwyddor ganolog y cymeriad Cristnogol—cariad I Cor. 13—oedd yn ddeddf iddo'i hun. Yn yr eglwys lle yr anwybyddid hyn, teimlai ei bod yn Nid oedd angenrheidiol gwasgu'r gwirionedd adref. eisiau gwneuthur hyn yn ei deulu; a chafodd yno gyfle i brofi y gall cariad gwirioneddol fod yn ddeddf iddo'i hun, a bod yn annibynnol ar orfodaeth deddf allanol. Ni welwyd un teulu erioed yn fwy o " aelodau i'w gilydd "—pob un yn gwasanaethu pob un arall.
Dyma a ddywed ef ei hun yn ei gân "Lala'n un ar hugain":
"Cêst dyner fam i'th wylio
Ei gwell ni chadd un ferch,
A thad oedd frawd a chyfaill,
A chwaer yn llawn o serch."
Mor bell ag yr oedd yna ddeddf allanol yn bod, ef ei hun oedd dani'n fwy na neb arall, a'r lleill—y plant yn