Ymddengys bod yna wir yn y cyffesiad uchod, mai rhyw fath o glefyd neu feddwdod myfïol ydoedd wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad.
Yr oedd yn fwy sensitif i glod dynion nag y tybiai, ac nag y dymunai fod. Yr oedd yna anghytgord rhwng yr hyn ydoedd yn y dwfn a'r hyn a geisiai fod. Gallai oddef beirniadaeth deg, a chroesawai a gwahoddai hi. Gwelid ef yn aml wedi'r oedfa yn gofyn barn a beirniadaeth y diaconiaid ar ei bregeth. Eto credwn mai bychan oedd nifer y diaconiaid a fyddai yn ei feirniadu'n onest yn hytrach na'i ganmol—wedi iddo adael sir Aberteifi; fel y mae gennym le cryf i gredu, tra yr oedd yr ail Adda'n cymryd ei feirniadu, bod yr Adda cyntaf yn pysgota clod. O leiaf, gwyddom i un ohonom ni ysgrifennu adolygiad ar ei lyfr Paul yng ngoleuni'r Iesu,—adolygiad beirniadol, mae'n wir, ond teg, rhesymiadol a rhesymegol, fel y credwn o hyd, ac un oedd, fel y cyfryw, yn well cydnabyddiaeth o deilyngdod ei lyfr na'r glasdwr clodforus sydd wrth fodd yr archwaeth fyfïol; ac iddo yntau geisio gan gyfaill ei ateb, a sicrhau iddo'r clodforedd dyladwy!
Nid ydym yn ei amddifadu o'i wir glod wrth ddywedyd hyn, oblegid os oedd yn wir ei fod ef yn awyddus am glod ei gyd—ddynion, yr oedd yn gofyn mwy o wroldeb moesol ar ei ran i herio barn y cyhoedd fel y gwnaeth am flynyddoedd. Ond un anodd i'w orchfygu yw Agag (enw'r Cadfridog Gordon ar ei elyn gwaethaf, sef ef ei hun). Er i Adams gael ei ben i lawr wrth herio clod y byd, dywedir iddo ef ei hun gael ei lusgo i'r llawr yn yr un codwm, gan iddo fynd i hel clod y rebel, fynd yn slaf rhyddfrydigrwydd, a bod yn gul mewn newydd—deb,—yn wir, i'w gyfrif ei hun yn gapten croesgad moderniaeth yng Nghymru. Y mae yna beth gwir yn y cyhuddiad hwn, efallai, y tu mewn i gylch neilltuol o amser—amser adlam blynyddoedd cyntaf yr erlid fu arno. Ond yr oedd ef yn